John Toshack yn gwadu iddo gael diagnosis dementia

Dywedodd John Toshack (uchod yn 2016) fod gweld yr adroddiadau newyddion wedi bod yn "syndod"
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-seren pêl-droed Cymru a Lerpwl, John Toshack, wedi gwadu ei fod wedi cael diagnosis o ddementia.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd ei fab, Cameron, wrth y Daily Mail fod ei dad wedi derbyn diagnosis a'i fod yn cael "dyddiau da a drwg".
Wrth siarad gyda BBC Cymru hefo ei wraig, dywedodd Toshack nad oedd hynny'n wir.
Mae Toshack yn 77 oed ac yn byw gyda'i wraig, Mai Angulo, yn Sbaen a dywedodd fod gweld yr adroddiadau newyddion wedi bod yn "syndod".
"Dwi'n agosáu at 80 oed, dydy fy nghof i ddim fel yr oedd yn arfer bod, ond nid dementia ydy o, dydw i heb gael diagnosis."
"Dwi ddim mor ifanc ag oeddwn i ac mi ges i ymosodiad drwg o Covid pan oedd o gwmpas, ond diolch byth dwi'n iawn rŵan."
"Dwi'n gwneud popeth ar fy mhen fy hun, ond fel unrhyw un o fy oedran i, dwi ddim yn mynd yn iau."
Cyn-seren Cymru a Lerpwl, John Toshack wedi cael diagnosis o ddementia
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mae Cameron yn byw ac yn hyfforddi yng Ngwlad Thai bellach.
Yn ystod cyfweliad ar y ffôn, dywedodd John Toshack nad oedd wedi gweld ei fab ers tro.
Mae'r BBC wedi cysylltu â Cameron Toshack i gael sylwadau am ei gyfweliad gyda'r Daily Mail.
Yn ystod y cyfweliad â BBC Cymru, fe wnaeth John Toshack jôc hefyd am ei anafiadau o'i ddyddiau chwarae.
"Mae gen i fy hen anafiadau pêl-droed sydd dal yma ac alla i ddim cyrraedd y postyn pellaf mor dda rŵan."

Profodd lwyddiant yn rheoli Abertawe ar ddiwedd yr 1970au a dechrau'r 1980au
Fe wnaeth Toshack sgorio 13 o goliau mewn 40 o gemau dros ei wlad - a bu'n hyfforddwr Cymru yn 1994 a rhwng 2004 a 2010.
Cychwynnodd ei yrfa yn chwarae i'w dîm cartref, Caerdydd, cyn ymuno â Lerpwl yn 1970.
Ffurfiodd bartneriaeth ymosod gyda Kevin Keegan, ac enillodd dri theitl cynghrair, dau Gwpan UEFA, un Cwpan FA, un Cwpan Ewropeaidd, Tarian Elusen a Super Cup UEFA yn ystod cyfnod disglair o wyth mlynedd.
Ymunodd y Cymro ag Abertawe fel chwaraewr-reolwr yn 1978 ac arweiniodd y clwb o'r Bedwaredd Adran i'r Gyntaf gyda dyrchafiadau olynol, yn ogystal â thri theitl Cwpan Cymru.
Enillodd dlysau mewn pump o'r wyth gwlad wahanol lle bu'n rheoli - gan gynnwys dau gyfnod gyda Real Madrid - a'i rôl fwyaf diweddar gyda Tractor yn Azerbaijan yn 2018.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.