Cyn-seren Cymru a Lerpwl, John Toshack wedi cael diagnosis o ddementia

- Cyhoeddwyd
Mae un o gyn-sêr pêl-droed Cymru a Lerpwl, John Toshack, wedi cael diagnosis o ddementia, yn ôl ei fab, Cameron.
Fe wnaeth Toshack, 77 oed, sgorio 13 o goliau mewn 40 o gemau dros ei wlad - a bu'n hyfforddwr Cymru yn 1994 a rhwng 2004 a 2010.
Dywedodd Cameron Toshack, sy'n gyn-hyfforddwr tîm ieuenctid Abertawe, fod ei dad - a fu'n rheoli sawl clwb gan gynnwys Real Madrid, Real Sociedad a Besiktas - yn cael "diwrnodau da a diwrnodau gwael".
"Mae'n gyflwr ofnadwy," meddai Cameron Toshack wrth y Daily Mail.

Roedd John Toshack a Kevin Keegan (ar y dde pellaf) yn allweddol i lwyddiant Lerpwl yn ystod y 1970au
Dywedodd Cameron, sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi yn Thailand, ei fod yn sylwi ar y gof byr dymor ei dad - "dwi'n siarad ag ef yn gyson ac os ydyn ni'n siarad yn y prynhawn, weithiau dyw e ddim yn cofio ein bod ni wedi siarad yn barod yn y bore.
"Ond os dwi'n gofyn iddo am ei ddyddiau yn Lerpwl, neu Sociedad neu Madrid, mae'r manylion yn anhygoel.
"Y diwrnod o'r blaen, roedd yn sôn wrtha i am gêm Real Madrid yn erbyn tîm AC Milan, Arrigo Sacchi," ac esboniodd sut roedd wedi addasu ei chwarae i ddelio â Marco van Basten.
"Fe allai'r gêm fod wedi bod ddoe, roedd ei feddwl mor glir," meddai.
Allweddol yn natblygiad sêr Cymru
Treuliodd Toshack bythefnos ar beiriant anadlu mewn ysbyty yn Barcelona yn ddiweddar ar ôl iddo gael Covid-19 a niwmonia.
Fe gychwynnodd John Toshack ei yrfa yn chwarae i'w dîm cartref, Caerdydd. cyn ymuno â Lerpwl yn 1970.
Ffurfiodd bartneriaeth ymosod gyda Kevin Keegan, ac enillodd dri theitl cynghrair, dau Gwpan UEFA, un Cwpan FA, un Cwpan Ewropeaidd, Tarian Elusen a Super cup UEFA yn ystod cyfnod disglair o wyth mlynedd.
Ymunodd y Cymro ag Abertawe fel chwaraewr-reolwr ym 1978 ac arweiniodd y clwb o'r Bedwaredd Adran i'r Gyntaf gyda dyrchafiadau yn olynol, yn ogystal â thri theitl Cwpan Cymru.
Enillodd dlysau mewn pump o'r wyth gwlad wahanol lle bu'n rheoli - gan gynnwys dau gyfnod gyda Real Madrid - a'i rôl fwyaf diweddar gyda Tractor yn Azerbaijan yn 2018.
Roedd Toshack hefyd yn allweddol yn natblygiad sêr Cymru gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen yn ystod ei ail gyfnod yn gyfrifol am Gymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.