'Synnu' â'r ymateb wrth i fi gyfieithu o Ffrangeg i Gymraeg yn fyw

Lauren Salter yn cyfweld Mattieu Jalibert yn Ffrangeg ar ddiwedd gêm Cymru v Ffrainc yn gynharach eleni. Maswr Ffrainc oedd seren y gêm wrth i Les Bleus ennill 54-12
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd rygbi wedi dweud ei bod wedi ei synnu iddi gael cymaint o ymateb wrth iddi gyfieithu ar y pryd gyfweliad o Ffrangeg i Gymraeg ar deledu byw.
Dywed Lauren Salter ei bod yn credu bod nifer o Ffrancwyr wedi ymateb gan eu bod nhw wedi arfer clywed cyfieithiadau i'r Saesneg, yn hytrach na'r Gymraeg.
Ar ddiwedd gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, roedd rhaglenni eisiau cyfweld â Mattieu Jalibert.
Roedd hyn yn broblem i rai darlledwyr gan nad ydi o'n gallu siarad Saesneg.
Ond â hithau'n gallu siarad Ffrangeg fe benderfynodd Lauren Salter ei holi yn ei famiaith, a chyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg yn ystod darllediad byw S4C.
"S'dim ffordd gwell i checio os chi dal yn gallu siarad Ffrangeg yn rhugl nag ar deledu byw," meddai.
'Braf clywed Ffrangeg yn cael ei darlledu'
Fe gafodd y clip ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda nifer fawr yn ymateb yn bositif.
"O'n i wedi synnu braidd gyda lefel yr ymateb a fi'n meddwl falle roedd e'n fwy trawiadol achos bod e o'r Ffrangeg i'r Gymraeg yn hytrach nag o'r Ffrangeg i'r Saesneg," meddai Lauren Salter ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Achos mi roedd rhai Ffrancwyr falle ddim yn gwybod bo' ni'n darlledu yn yr iaith a bod sianel ryngwladol gyda ni yn gwneud lot o chwaraeon byw. Felly, mewn ffordd roedd e'n rhoi fwy o sylw i S4C.
"Ges i lot o (Ffrancwyr) yn dweud pa mor braf oedd e jyst i glywed Ffrangeg yn cael ei darlledu tu fas i Ffrainc achos mae Ffrainc yn rhan enfawr o'r gystadleuaeth ac anaml ni'n gwneud ymdrech i gyfathrebu gyda nhw yn eu mamiaith. Dyna'r prif ymateb ges i o Ffrainc."
Fe wnaeth y cyflwynydd, sy'n wreiddiol o Lanelli, astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Bryste.
Mae hi bellach yn wyneb a llais cyfarwydd fel cyflwynydd a gohebydd chwaraeon ar S4C a BBC Cymru.

Roedd Lauren Salter yn cael ei holi gan Beti George
Ond nid eleni oedd y tro cyntaf iddi gael y cyfle i gyfweld â chwaraewr rygbi o dramor yn ei famiaith.
Pan oedd y Llewod yn chwarae'r Ariannin y llynedd, fe gafodd gais gan ei chynhyrchydd i wneud cyfweliad Sbaeneg gydag un o'r Archentwyr.
Ond fe benderfynodd beidio gwneud hynny o dan yr amgylchiadau.
"Daeth chwaraewr draw oedd yn siarad Saesneg yn rhugl ac o'n i'n meddwl, os i fi yn gwneud hwn yn Sbaeneg mae'r cyfweliad amdanaf i yn hytrach na'r chwaraewr," meddai.
"Os mae'r chwaraewr yn gallu siarad Cymraeg neu Saesneg nawn ni fe yn yr iaith yna achos mae'n atal amser.
"Ond gyda Mattieu Jalibert - fel mae'n digwydd, seren y gêm ac wedi cael chwip o gêm - ddim yn siarad Saesneg, ac wedyn daeth e draw a oedd e jyst yn grêt gallu neud e."
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar Beti a'i Phobol am 18:00 ar 19 Ebrill ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd15 Chwefror
