Chwaraewr rygbi Cymru yn gaeth i'w wely wedi ergyd i'w drwyn

Sam Daviesyn gorwedd yn y gwely Ffynhonnell y llun, Sam Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2013, cafodd Sam Davies ei enwi fel chwaraewr iau gorau'r byd y flwyddyn honno

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth bywyd y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Sam Davies, newid yn llwyr wedi iddo gael anaf i'w drwyn yn ystod gem i Grenoble fis Ionawr.

Dim ond 'chydig o waed a chlais yr oedd yn disgwyl wedi'r anaf, ond fe gollodd 7kg o bwysau, ac aeth yn gaeth i'w wely.

Wythnosau'n ddiweddarach, fe wnaeth meddygon ganfod bod ganddo haint staff, dolen allanol - sy'n cael ei achosi gan fath o facteria o'r enw Staphylococcus sy'n byw yn nhrwyn un ym mhob tri pherson ac sy'n gallu mynd i mewn i'r corff trwy friw.

Erbyn hyn, mae'r germ wedi lledaenu i'w esgyrn, ac er ei fod wedi derbyn triniaeth i fynd i'r afael â'r haint, nid yw'n glir pryd y bydd yn gallu dychwelyd i chwarae.

Sam Davies yn gorwedd ar wely ysbytyFfynhonnell y llun, Sam Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Davies yn gobeithio arwain Grenoble i ddyrchafiad, ond ni fydd yn gallu chwarae am weddill y tymor yn dilyn ei salwch

"Mae 'di bod yn gyfnod anodd iawn yn feddyliol ac yn gorfforol," meddai Sam.

"Doeddwn i ddim yn gallu gwneud hyd yn oed y tasgau mwyaf syml, felly roedd yn teimlo fel petai gan fy ngwraig ddau fabi."

Nid oedd yn gallu coginio i'w hun, ymolchi, na gwneud dim byd heblaw gorwedd yn y gwely.

Dri mis yn ddiweddarach, ac mae'n gallu cerdded eto, ond nid yw'n gallu gwneud unrhyw beth sy'n gofyn am lawer o egni, ac nid yw'n siŵr pryd y bydd yn gallu dychwelyd i'r cae rygbi.

Sam Davies yn cicio'r bêl yn ystod gêm i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o uchafbwyntiau Sam Davies mewn crys Cymru oedd sgorio'r pwyntiau buddugol yn erbyn Japan yn 2016

Fe wnaeth gyrfa Davies gychwyn gyda'r Gweilch, cyn mynd ymlaen i chwarae i'r Dreigiau, ac yna ennill wyth cap dros Gymru.

Yn 2023, fe aeth Davies a'i wraig Elianna ar antur newydd i Ffrainc, wrth iddo geisio helpu Grenoble i ennill dyrchafiad i brif gynghrair Ffrainc, y Top 14.

Pan ddigwyddodd yr anaf, roedd eu merch fach dim ond yn fis oed.

"Ces i fy nharo'n eithaf cas tua 50 munud i mewn," meddai.

"Doedd e [y trwyn] ddim wedi torri, ond roedd y tu mewn yn llanast iawn… roedd e'n parhau i waedu.

"Ro'n i'n meddwl y byddai'n iawn gan nad oedd yn teimlo fel dim mwy nag ergyd."

Er gwaethaf y gwaedu trwm a gwyriad ar y septwm (deviated septum), fe wnaeth Davies barhau i chwarae rygbi.

Roedd Davies, sy'n chwarae fel maswr, newydd ddychwelyd o gyfnod o bedwar mis heb chwarae oherwydd anaf i'w ysgwydd, felly nid oedd am adael y cae.

Gorffennodd y gêm, ond nid tan ychydig ddyddiau'n ddiweddarach y dechreuodd deimlo'n sâl.

Dywedodd Elainna fod Sam wedi dechrau profi poen yn ei gluniau ychydig ddyddiau ar ôl y gêm, ac roedd yn gweld hi'n anodd symud.

I ddechrau, roedden nhw'n meddwl bod e'n deillio o chwarae, gan fod ei rôl fel maswr yn cynnwys llawer o gicio o'r llaw, ac at y pyst.

Sam Davies mewn crys clwb rygbi Grenoble Ffynhonnell y llun, Sam Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Davies wedi dioddef sawl anaf ers dechrau ei gyfnod yn Grenoble

Ond dywedodd Elianna: "Fe wnaeth Sam fy neffro tua 4:00 yn llawn ofn gan na allai symud ei goesau, a gofynnodd i mi ffonio ambiwlans."

Oherwydd diffyg rhyglder ei Ffrangeg, cafodd Elianna drafferth cyfleu difrifoldeb cyflwr Davies i'r staff dros y ffôn.

O ganlyniad, bu'n rhaid iddi geisio cario Davies, a oedd yn pwyso 13 stôn 2 pwys (84kg), i'w char cyn teithio i'r ysbyty, gyda'u merch mis oed.

Roedd diffyg Ffrangeg Davies hefyd wedi gwneud hi'n anodd cyfleu faint o boen yr oedd ynddo, a threuliodd wyth diwrnod yn yr ysbyty yn cael profion.

Er bod profion wedi awgrymu presenoldeb Staphylococcus yn ei gorff, cafodd ei anfon adref gyda chyffuriau ar gyfer y poen.

Bythefnos yn ddiweddarach cafodd yr haint ei gadarnhau, ac erbyn hynny roedd wedi lledaenu i'w esgyrn.

Mae Davies yn credu y gallai diagnosis a thriniaeth cynt fod wedi atal y cyflwr i fynd mor ddifrifol.

Beth yw haint Staff?

Yn ôl GIG Cymru mae haint Staff yn cael ei achosi gan haint bacterol o Staphylococcus.

Mae bacteria staff yn gyffredin. Mae tua un o bob tri o bobl yn cario'r bacteria ar eu croen, fel arfer y tu mewn i'w trwyn ac ar arwyneb eu ceseiliau a'u ffolennau.

Fodd bynnag, gall y bacteria achosi problemau os ydyn nhw'n mynd i mewn i'r corff trwy friw yn y croen.

Gall symptomau haint Staff gynnwys:

  • lwmp neu fwmp coch poenus

  • croen poeth, coch wedi chwyddo

  • briwiau, cramennu neu bothelli

  • amrannau neu lygaid sy'n boenus a choch

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae modd ei drin â gwrthfiotigau.

Fodd bynnag, os na chaiff ei drin, gall ddod yn llawer mwy difrifol os yw'r bacteria'n lledaenu i'r organau, llif y gwaed neu'r esgyrn.

Sam Davies yn gorwedd ar wely ysbytyFfynhonnell y llun, Sam Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i Davies gynyddu ei bwysau a gweithio ar ei ffitrwydd cyn dychwelyd i'r cae rygbi

Ni fydd Davies yn chwarae rygbi am weddill y tymor, er nad yw'r cyflwr yn cael ei ystyried fel un bydd yn dod â'i yrfa i ben ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, ar ôl colli 7kg o bwysau a'r rhan fwyaf o'i ffitrwydd, nid yw'n glir pryd y bydd yn gallu dychwelyd i'r gamp.

Wrth iddo nesáu at ddiwedd ei driniaeth, mae'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr a'i effeithiau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.