Ymchwilio i lofruddiaeth dyn, 49, yn Rhosllannerchrugog

Heddlu
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 49 oed yn Rhosllannerchrugog, sir Wrecsam.

Toc wedi 12:00 ddydd Gwener aeth plismyn i eiddo yn y pentref a chanfod dyn oedd wedi marw o anaf i'w ben.

Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae swyddogion yn parhau ar y safle tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney: "Rydym yn deall, drwy ymholiadau camerâu teledu cylch cyfyng, fod y dioddefwr wedi bod mewn ffrae gorfforol tua 12:00, ddydd Iau, 26 Mawrth ym maes parcio Bonc Wen yn Rhos.

"Mae tystiolaeth yn dangos bod sawl person wedi cerdded heibio ar y pryd a bod nifer o geir wedi'u parcio yn y maes parcio.

"Rwy'n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un a oedd wedi parcio yn y maes parcio ar y pryd ac a allai fod â lluniau dashcam, i gysylltu â swyddogion."

Ychwanegodd: "Hoffwn sicrhau'r gymuned ein bod yn trin hwn fel digwyddiad ynysig, ac er y bydd y gymuned yn bryderus, nid wyf yn credu bod unrhyw risg ehangach i'r cyhoedd.

"Rwyf hefyd yn gofyn i'r gymuned barhau i gefnogi swyddogion wrth iddyn nhw wneud yr ymholiadau angenrheidiol.

"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig