Clwb rygbi yn ailgydio mewn hen draddodiad i godi arian ar ôl tân

Y Barbariaid Cymreig enillodd y gêm o 27-31
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Rygbi Penarth wedi cynnal gêm arbennig yn erbyn tîm y Barbariaid Cymreig i nodi 125 mlynedd ers eu gêm gyntaf ar Ddydd Gwener y Groglith.
Fe ddaeth y gêm yn un flynyddol rhwng 1901 a 1986, ac mae disgwyl ambell enw cyfarwydd ar y cae wrth i'r ddau dîm wynebu ei gilydd unwaith eto.
Mae'r clwb o Fro Morgannwg wedi cael cyfnod anodd, ar ôl i dân ym mis Rhagfyr achosi difrod sylweddol i'r adeilad.
Bydd yr arian fydd yn cael ei godi o'r gêm yn mynd tuag at y gwaith ailadeiladu.
Dywedodd un o chwaraewyr Clwb Rygbi Penarth, Rhys Morgan fod y digwyddiad wedi cael "effaith anferth" ar y clwb a'r gymuned, ond eu bod yn edrych ymlaen at "ddathlu rhywbeth pwysig yn hanes Penarth".

Roedd difrod sylweddol i adeilad clwb rygbi Penarth yn dilyn tân ym mis Rhagfyr
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Rhys: "Ni'n edrych ymlaen at y gêm, ac yn edrych ymlaen at y cinio ni'n cael heno hefyd.
"Mae'r gêm yn bwysig wrth gwrs, ond ma' fe am gael at ein gilydd a dathlu rhywbeth pwysig yn hanes Penarth, a rhywbeth pwysig i helpu ni yn y sefyllfa ni ynddi ar hyn o bryd."
Mae sawl enw adnabyddus o'r gorffennol yn chwarae i'r Barbariaid Cymreig, gan gynnwys Allan Bateman, Andy Powell a Bradley Davies.
Ond bydd dyfarnwr go adnabyddus yn cadw trefn ar y cyfan hefyd - Nigel Owens.
"Dwi'n meddwl bod pawb yn fwy cyffrous i weld Nigel na'r chwaraewyr!" meddai Rhys.

Clwb rygbi Penarth yn 1920
Roedd difrod sylweddol i glwb chwaraeon Penarth Athletic, sydd hefyd yn gartref i dimau criced a hoci, wedi'r tân y llynedd.
"Mae [y tân] 'di cael effaith anferth ar shwt gymaint o bobl. Mae'r clwb yn rhan o'r gymuned - mae cymaint o bethau yn digwydd fan hyn," meddai Rhys.
"Ond ers hynny mae'r gwaith sydd wedi mynd ymlaen, mae pobl yn gweithio mor galed i geisio cael y clwb yn ôl i rywbeth allwn ni ddefnyddio.
"A gobeithio heddiw yw'r cam cyntaf o weld a dathlu beth sydd wedi digwydd yn barod.
"Mae'r arian i gyd yn mynd i fynd at ailadeiladu'r clwb.
"Ni 'di bod yn lwcus iawn bod cymaint o glybiau o amgylch ni ac ar draws de Cymru wedi bod mor hapus i anfon a chodi arian ar ein cyfer ni."

Y Barbariaid Cymreig enillodd y gêm o 27-31.
Cyn-ganolwr Cymru Tom Shanklin sy'n llywio'r diwrnod, a bydd y cyn-brop Adam Jones hefyd yn siarad mewn digwyddiad ar ôl y gêm.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025
