Tyfu coedwig newydd gan ddefnyddio wrin dynol fel gwrtaith

Mae'r prosiect wedi bod yn casglu a phrosesu wrin o wyliau cerddorol mawr
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr sy'n gyfrifol am brosiect arloesol i droi wrin dynol yn wrtaith ar gyfer planhigion yn bwriadu tyfu eu coedwig gyntaf yng Nghymru.
Mae cwmni NPK Recovery o Fryste yn casglu wrin o doiledau dros-dro mewn gwyliau cerddoriaeth mawr, gan ei droi'n wrtaith i helpu aildyfu'r gwair ar y caeau wedi i'r digwyddiadau ddod i ben.
Nawr, fel rhan o'r arbrawf cyntaf o'i fath yn y DU, mae'r tîm yn bwriadu tyfu miloedd o goed cynhenid er mwyn creu coedwig newydd yn Sir Fynwy.
Daw wrth i brisiau gwrtaith gynyddu'n aruthrol o ganlyniad i'r rhyfel yn Iran, gan roi pwysau ar ffermwyr a thyfwyr cnydau.

Y bwriad yw tyfu miloedd o fathau cynhenid o goed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Wedi'i leoli ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), mae'r tîm wedi bod yn casglu wrin o ddigwyddiadau mawr fel Boomtown Festival a marathon Llundain yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Maen nhw'n defnyddio'r nitrogen a maetholion eraill i gynhyrchu gwrtaith ar leoliad, gan leihau'r pwysau ar systemau carthffosiaeth yn ystod gwyliau mawr, a'r defnydd o gemegion.
Mae'r cynnyrch, sydd - credwch neu beidio - ddim ag arogl iddo, wedi'i ddefnyddio yn barod i dyfu porfa a chydau, gyda threialon yn awgrymu ei fod mor effeithiol â gwrtaith synthetig.
Ond dyma fydd y tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio ar goed, fel rhan o brosiect tair blynedd o hyd sydd wedi derbyn grant gwerth £435,627 gan y Comisiwn Coedwigaeth er mwyn hybu arloesedd yn y sector.
Mae'r cwmni wedi ffurfio partneriaeth ag elusen Gymreig Ceiniogi'r Coed, a'u meithrinfa goed ger Y Fenni.
Y bwriad yw defnyddio'r gwrtaith i helpu tyfu 4,500 o goed cynhenid - fel ffynidwydd a ffawydd - i'w plannu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bu'r tîm yn casglu wrin yn ystod marathon Llundain hefyd
Dywedodd Lucy Bell-Reeves, cyd-sefydlydd NPK Recovery, bod defnyddio cynnyrch gwastraff i dyfu coed yn "ddatrysiad cylchol all ein helpu ni adfywio ein rhywogaethau cynhenid sydd dan fygythiad".
Cyfeiriodd at ddata elusen Coed Cadw sy'n awgrymu mai ond 7% o goedwigoedd cynhenid Prydain sydd mewn cyflwr da.
"Dwi'n caru'r syniad y bydd rhedwyr a phobl sy'n mwynhau gwyliau cerddorol wedi cyfrannu at fforest Gymreig newydd erbyn diwedd y prosiect yma, a gallai dyfu am gannoedd o flynyddoedd," meddai.
"Mae angen i ni roi stop ar flyshio maetholion allai dyfu cnydau a choed i lawr y tŷ bach, a dechre eu defnyddio nhw i gynyddu'n diogelwch gwrtaith ni.
"Wedi'r cyfan 'nawn ni ddim rhedeg allan o wrin yn fuan."
Dywedodd yr awdur a'r newyddiadurwr Rob Penn, a gyd-sefydlodd elusen Ceiniogi'r Coed, ei fod yn "hynod gyffrous i fod ynghlwm â'r prosiect yma sy'n torri tir newydd, a sydd â goblygiadau am ddyfodol coedwigaeth gynaliadwy".
Mae'r elusen, sydd wedi'i harwain gan ffermwyr, newydd ddathlu plannu eu 500,000fed coeden, tra'n anelu am y miliwn.

Mae NPK Recovery yn gweithio gydag elusen Gymreig Ceiniogi'r Coed ar y cynllun
Cyn i chi gael unrhyw syniadau, dyw mynd i'r tŷ bach yn eich gardd yn y gobaith y bydd hynny'n helpu'r planhigion dyfu, ddim yn gynllun da.
"Mae wrin yn naturiol yn cynnwys yr holl faetholion sydd angen ar blanhigion fel nitrogen, ffosfforws a photasiwm, ond mae hefyd yn cynnwys nifer o ddifwynwyr (contaminants)," eglurodd Olivia Wilson, gwyddonydd gyda NPK Recovery.
Mae'r broses mae'r cwmni wedi'i datblygu yn cael gwared ag unrhywbeth annymunol - gan gynnwys yr arogl - ac yn troi'r maetholion i ffurf y mae planhigion yn medru elwa ohonyn nhw, meddai.
Ar adeg pan fo'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi rhoi pwysau ar argaeledd a phris gwrtaith synthetig sy'n cael ei fewnforio, dywedodd Ms Wilson bod y prosiect yn gobeithio yn y tymor hir i fedru "darparu dipyn bach o sicrwydd i dyfwyr yn y DU sy'n edrych am ffynhonnell mwy cynaliadwy ar gyfer eu hanghenion gwrtaith".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth

- Cyhoeddwyd21 Mawrth

- Cyhoeddwyd10 Chwefror
