Yr Ysgwrn yn rhoi bywyd newydd i goeden y Sycamore Gap

Coeden o Obaith
  • Cyhoeddwyd

Mae coeden newydd wedi cael ei phlannu ar dir Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, a gafodd ei thyfu o goeden sycamorwydden fyd-enwog a gafodd ei dinistrio.

Cafodd coeden y Sycamore Gap yn Sir Northumberland ei thorri i lawr yn 2023, ar ôl sefyll yn y fan ger Wal Hadrian ers dros ganrif.

A nawr, mae coed ifanc sydd wedi eu tyfu o'r goeden eiconig yn cael eu plannu ym mhob un o'r 16 parc cenedlaethol ledled y Deyrnas Unedig, fel rhan o fenter ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Y parciau cenedlaethol cyntaf i gael coeden yw Parciau Cenedlaethol Northumberland, Loch Lomond & The Trossachs ac Eryri.

Dywedodd prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri, Jonathan Cawley, fod "plannu planhigyn o goeden mor eiconig yn Eryri yn rhoi teimlad o falchder" iddo.

Coeden wedi ei thorriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y stori am dorri'r Sycamore Gap yn Sir Northumberland sylw byd-eang yn 2023

Roedd y goeden wreiddiol yn adnabyddus i nifer, gyda llawer yn teimlo effaith emosiynol y difrod pan y cafodd ei thorri i lawr yn oriau mân y bore ar 28 Medi 2023.

Ym mis Gorffennaf 2025, cafodd Daniel Michael Graham ac Adam Carruthers eu carcharu am dorri'r goeden yn anghyfreithlon.

Mae'r goeden newydd sy'n cael ei phlannu yn Yr Ysgwrn hefyd yn rhan o'r dathliadau i nodi 75 mlynedd ers sefydlu Parc Cenedlaethol Eryri.

Dynion yn plannu coeden

Ychwanegodd Jonathan Cawley, prif weithredwr y parc: "Wrth i ni ddathlu 75 mlynedd fel Parc Cenedlaethol.... mae'n ein hatgoffa bod cadwraeth yn ymwneud â'r dyfodol a'r tirweddau yr ydym yn ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae ei phlannu yn Yr Ysgwrn, canolfan o bwysigrwydd diwylliannol yn nodweddiadol, gan ei bod nid yn unig yn symbol o adlewyrchiad ond hefyd o adnewyddu a'r cysylltiad parhaol rhwng pobl a naws am le."

Gyda phob planhigyn sy'n mynd i gael eu plannu ar draws parciau cenedlaethol y DU yn dod yn uniongyrchol o'r goeden wreiddiol, y nod, meddai National Parks UK, yw bod "stori'r goeden yn parhau".

Jonathan CawleyFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Creda Jonathan Cawley ei bod hi'n stori "o natur yn goroesi mewn ffor', dros rywbeth oedd yn eitha' trist yn wreiddiol"

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Cawley fod Yr Ysgwrn yn opsiwn "addas ac eitha' hygyrch" ar gyfer plannu'r goeden a bod pobl yn dod yno i'r ganolfan dreftadaeth sydd "mor bwysig i'r iaith yng Nghymru".

Dywedodd fod y parciau i gyd wedi ymrwymo i'r prosiect a'i fod yn credu iddi gael ei phlannu yn Yr Ysgwrn fore Mercher.

"Mae o'n stori - dwi'n credu - o natur yn goroesi mewn ffor', dros rywbeth oedd yn eitha' trist yn wreiddiol."

'Degawdau i aeddfedu'n llawn'

Yn ôl Mr Cawley mae'r Ysgwrn yn "lleoliad pwysig iawn" ac anogodd i bobl fynd yno er mwyn defnyddio'r gwahanol wasanaethau.

"Mae o'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Ma' pobl yn gallu mynd yna i adlewyrchu neu i feddwl be' mae o'n ei olygu iddyn nhw.

"Ma' plannu'r goeden eitha' symbolaidd 'ma yn cyd-fynd hefo be' ma'r Ysgwrn yn ei olygu mewn ffor'."

Ychwanegodd fod y math yma o goeden yn tyfu'n eithaf sydyn - "y 50 mlynedd nesa', ond ma' unrhyw goeden fel hyn yn cymryd degawdau i aeddfedu'n llawn".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.