Y Brenin a'r Frenhines yn rhannu arian Cablyd yn Llanelwy

- Cyhoeddwyd
Mae'r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla wedi bod yn cymryd rhan yn y gwasanaeth Cablyd blynyddol yng Nghadeirlan Llanelwy fore Iau.
Dyma'r tro cyntaf i Wasanaeth y Cablyd Brenhinol gael ei gynnal yn y gogledd a'r eildro erioed yng Nghymru mewn 800 mlynedd.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar y dydd Iau olaf cyn Sul y Pasg ac yn gyfle i gofio'r Swper Olaf a phwysigrwydd gostyngeiddrwydd.
Hefyd yn bresennol roedd nifer o gyfansoddwyr a cherddorion o Gymru.
Yn ystod y gwasanaeth bu'r Brenin yn cyflwyno rhoddion ariannol i aelodau o'r gynulleidfa er mwyn cydnabod eu gwasanaeth Cristnogol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru, Grahame Davies ei fod yn gyfle i "gofio am yr esiampl wnaeth Iesu Grist ei ddangos o roi gwasanaeth i eraill cyn eich hunan".
"Mae'n fraint arbennig cynnal y gwasanaeth ac rwy'n gobeithio y bydd yn brofiad cofiadwy i'r rhai a oedd yn bresennol," meddai Nigel Williams, Deon Cadeirlan Llanelwy.

Y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla yn bresennol yn Llanelwy fore Iau Cablyd
Yn 1210 mae'r cofnod cyntaf o Wasanaeth y Cablyd Brenhinol a hynny gan y Brenin John ac wedi hynny fe ddaeth y weithred o roi rhoddion yn draddodiad.
Ddydd Iau 2 Ebrill yn y gadeirlan yn Sir Ddinbych fe gyflwynodd y Brenin Charles roddion i 77 o ddynion a 77 o fenywod o Gymru ac esgobaethau eraill ledled y DU i gydnabod eu gwasanaeth Cristnogol ac am helpu pobl yn eu cymunedau.
Mae'r rhai sy'n cael eu cydnabod yn cael dau bwrs – un gwyn sy'n cynnwys 77 o ddarnau arian Cablyd, i gyd-fynd ag oedran y Brenin, a phwrs coch sy'n cynnwys darn arian £5 i nodi 100 mlynedd ers geni'r ddiweddar Frenhines.
Maen nhw hefyd yn cael darn arian 50c sy'n dathlu pen-blwydd elusen Ymddiriedolaeth y Brenin.
Y tro diwethaf i'r gwasanaeth yma gael ei gynnal yng Nghymru oedd ym 1982 a hynny yn Nhyddewi, Sir Benfro.

Cafodd y geiriau 'Not our King' eu gorchuddio
Cyn i'r cwpl brenhinol gyrraedd roedd torfeydd ar hyd y stryd fawr ac fe gafodd swyddogion eu gweld yn ceisio cael gwared ar graffiti ar y gadeirlan oedd yn dweud 'Not our King'.
Wrth i'r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla gyrraedd roedd grŵp bach o brotestwyr gweriniaethol wedi ymgasglu ar ochr arall y ffordd. Roedden nhw'n dal baneri'n galw ar i'r frenhiniaeth ddod i ben.

Roedd Susan a Roger Whitehouse o Dywyn ymhlith y rhai a dderbyniodd arian Cablyd
Ymhlith y rhai a gafodd roddion gan y Brenin roedd Susan a Roger Whitehouse o Dywyn, Gwynedd.
Dywedodd y cwpl eu bod wedi "synnu'n fawr" eu bod wedi cael eu cydnabod gyda'i gilydd, gan nad oedden nhw erioed wedi ceisio cydnabyddiaeth am eu gwasanaeth.
"Rydyn wedi trio gwasanaethu lle bo angen," medden nhw.
"Ein ffydd sy'n llywio'r hyn ry'n ni'n ei wneud ac mae wedi ein tynnu'n ddyfnach i fywyd yr eglwys gan ein helpu i edrych ar y gymuned yn ehangach."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Cyfarwyddwr Cenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru, Grahame Davies fod Dydd Iau Cablyd yn gyfle i Gristnogion "gofio am yr esiampl wnaeth Iesu Grist ei ddangos o roi gwasanaeth i eraill cyn eich hunan – dyna galon y peth o ran arwyddocad crefyddol, a nos Iau Cablyd oedd y noson pan ddaeth Iesu i olchi traed ei ddisgyblion.
"Cyfle yw'r gwasanaeth i gofio hynny."
Ychwanegodd y bydd "y gynulleidfa bron i gyd yn bobl fydd yn derbyn y Cablyd ac mae Llanelwy yn gadeirlan fach, felly bydd bron pawb fydd yna yn bobl fydd yn cael eu cydnabod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.