Arestio tri mewn cysylltiad â bygythiadau tuag at ysgolion Caerdydd

Ysgol Uwchradd Llanisien
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysgol Uwchradd Llanisien ar gau am ddeuddydd yn dilyn y bygythiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi arestio tri o bobl mewn cysylltiad â bygythiadau a gafodd eu gwneud tuag at dair ysgol uwchradd yng Nghaerdydd.

Bu rhai o'r ysgolion ar gau yn dilyn y bygythiadau yn gynharach fis yma.

Mae dyn 47 oed, menyw 44 oed a bachgen 12 oed o Birmingham wedi cael eu harestio ar amheuaeth o "fygythiad bom ffug", yn groes i Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977.

Maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Roedd Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch ynghau am ddeuddydd yn dilyn y bygythiadau.

Dywedodd Thomas Williams o Heddlu De Cymru ddydd Mawrth: "Rydyn ni'n deall y pryder sylweddol mae'r digwyddiad yma wedi'i achosi i rieni a'r gymuned.

"Rydym yn cymryd yr adroddiadau hyn o ddifrif ac mae ymchwiliadau'n parhau.

"Hoffwn hefyd sicrhau teuluoedd nad oes unrhyw dystiolaeth o hyd bod unrhyw un yn mynychu unrhyw un o'r ysgolion dan sylw yn peri bygythiad.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid ac yn diolch i'r ysgolion, y rhieni a'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.