Lle mae'r ardaloedd mwyaf a lleiaf fforddiadwy i brynu tŷ yng Nghymru?

TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi pa ardaloedd sydd fwyaf fforddiadwy i brynu tŷ yng Nghymru.

Yn 2025 roedd Tylorstown, Glynrhedynog a Maerdy yn y Cymoedd ymhlith yr ardaloedd mwyaf fforddiadwy - gyda chost tŷ ar gyfartaledd rhwng £87,000 a £94,000.

Yr ardal leiaf fforddiadwy oeddd Llys-faen yng Nghaerdydd - lle roedd pris tŷ ar gyfartaledd yn £507,000.

Mae'r SYG yn cyfrifo fforddiadwyedd ar sail cyfartaledd incwm a phrisiau cyfartalog tai.

Mae ardal yn cael ei hystyried yn fforddiadwy os yw pris tai ar gyfartaledd yn costio hyd at bum gwaith enillion cyfartalog y rhai sy'n gweithio gerllaw.

Yn ôl y data, dolen allanol, dyma'r deg ardal fwyaf fforddiadwy yn 2025:

  1. Tylorstown, Rhondda Cynon Taf

  2. Glynrhedynog a Maerdy, Rhondda Cynon Taf

  3. Penrhiw-ceibr, Rhondda Cynon Taf

  4. Treherbert, Rhondda Cynon Taf

  5. De Abertyleri a Llanhiledd, Blaenau Gwent

  6. Gorllewin Tonypandy a Chwmclydach, Rhondda Cynon Taf

  7. Caerau, Caerdydd

  8. Tredegar Newydd a Chwm Darran, Caerffili

  9. Ynysowen, Troed-y-rhiw a Bedlinog, Merthyr Tudful

  10. Pentre, Rhondda Cynon Taf

Y pris cyfartalog am dŷ yn Tylorstown oedd £87,000 gyda'r incwm cyfartalog i weithwyr yn Rhondda Cynon Taf yn £33,976.

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2026 yn dangos mai £163,000 yw y pris cyfartalog am dŷ yn Rhondda Cynon Taf, cynnydd o 4.2% o'r flwyddyn flaenorol.

Dywed Rhys Chapman, 31, perchennog cwmni arwerthu tai Chapman ym Mhorth, Rhondda Cynon Taf, fod eiddo yn yr ardal sydd ar werth am lai na £170,000 yn "atyniadol i bobl sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf".

Dywedodd ei fod wedi sylwi bod diddordeb gan brynwyr "sy'n dod dros y bont i'r Cymoedd" a bod "ystod fforddiadwy" o dai ar y farchnad mewn ardaloedd fel y Rhondda.

Yr ardaloedd lleiaf fforddiadwy

Yn ôl y data, dyma'r 10 ardal lleiaf fforddiadwy yng Nghymru:

  1. Llys-faen, Caerdydd

  2. Gogledd Cyncoed, Caerdydd

  3. Rhaglan a Llandeilo Gresynni, Sir Fynwy

  4. Y Bont-faen, Bro Morgannwg

  5. Aberogwr a Llandŵ, Bro Morgannwg

  6. Gogledd Cas-gwent a Thryleg, Sir Fynwy

  7. Llanbedr-y-fro a Gwenfô, Bro Morgannwg

  8. Y Mynydd Bychan, Caerdydd

  9. Crucywel, Llangynidr a Llan-gors, Powys

  10. Gogledd Pen-y-lan, Caerdydd

Y pris cyfartalog am dŷ yn Llysfaen oedd £507,000, tra bod gweithwyr yng Nghaerdydd yn ennill £38,225 ar gyfartaledd.

Dywedodd Jonathan Thomas, cyfarwyddwr cwmni gwerthu tai yn Nhonypandy fod y farchnad dai yng Nghymru wedi newid ar ôl y pandemig wrth i bobl ddechrau gweithio o gartref.

Mae'n dweud fod pobl yn symud o ardaloedd drutach ac yn prynu eiddo "llawer rhatach" ymhellach allan.

"Rwyf wedi dangos tai, er enghraifft, i gwpl o Birmingham a oedd yn symud i'r Porth i weithio ac yn cwrdd yn rheolaidd â phobl o Fryste sy'n edrych i symud i'n hardal ni."

Ychwanegodd asiantaethau tai yn yr ardal fod uwchraddio'r Metro wedi gwneud Caerdydd yn "fwy hygyrch" i bobl o'r Cymoedd sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio i'r gwaith.

"Byddwn i'n dweud mai'r duedd rwy'n ei sylwi fwyaf yw'r ffaith bod pobl bellach yn gwerthfawrogi gweithgareddau awyr agored llawer mwy na rhwyddineb teithio a byw mewn dinas brysur," ychwanegodd Jonathan Thomas.

Fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru godi'n uwch na'r pris cyfartalog yn y DU y llynedd, gyda rhai ardaloedd yn gweld cynnydd o 7% yn ôl data y SYG a gafodd ei gyhoeddi'n gynharach eleni.

£213,000 yw'r pris cyfartalog am dŷ yng Nghymru - chwe gwaith yn fwy na'r incwm cyfartalog blynyddol o £35,800.

Dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality, fod twf "cymedrol" mewn prisiau tai yng Nghymru yn debygol o barhau.

"Mae marchnad dai Cymru yn parhau i ddangos arwyddion o wydnwch," meddai.

"Wrth edrych ymlaen, mae yna ychydig o ansicrwydd geo-wleidyddol - ond mae yna wydnwch sylfaenol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n prynu am y tro cyntaf."

Pynciau cysylltiedig