Dwy ysgol yng Nghaerdydd ar gau wedi bygythiadau

Rhan o gampws Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn ardal Trowbridge, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Trowbridge yn un o ddwy ysgol sydd wedi cau ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ysgol uwchradd yng Nghaerdydd ar gau ddydd Llun wedi i fygythiadau gael eu gwneud i'r heddlu nos Sul.

Dywed Heddlu De Cymru bod y penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yn Trowbridge, yn dilyn trafodaethau rhwng y llu a Chyngor Caerdydd.

Dywedodd y llu eu bod wedi cael neges yn gwneud bygythiadau i achosi niwed i bobl yn y ddwy ysgol.

Ychwanegodd mai'r "wybodaeth oedd bod gan unigolyn y bwriad i fynychu'r ysgolion yma gydag arfau".

Mae'r heddlu yn ymchwilio i asesu hygrededd y bygythiad a chanfod o ble daeth y neges.

Ysgol Uwchradd LlanisienFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien hefyd ar gau ddydd Llun

Yn ôl yr Arolygydd Mark Kavanagh, fe wnaed y penderfyniad i gau'r ysgolion "er mwyn osgoi risg".

Ychwanegodd: "Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad yma, ond gyda diogelwch disgyblion, staff a chymunedau ehangach yr ysgolion mewn golwg."

Dywedodd y llu y bydd ganddyn nhw bresenoldeb amlwg yn yr ardal tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

"Rydym yn deall bod hyn yn peri pryder i rieni a'r gymuned," meddai'r llu.

"Mae'n bwysig ein bod yn asesu'r wybodaeth yn llawn ac yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.