Be' nesa' i Gymru ar ôl methu â chyrraedd Cwpan y Byd?

Cafodd Craig Bellamy ei benodi'n rheolwr Cymru yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn wythnos i'w hanghofio i dîm pêl-droed dynion Cymru.
Gêm gyfartal ddi-fflach yn erbyn Gogledd Iwerddon ar ôl y torcalon o golli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia-Herzegovina yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd.
Fydd 'na ddim taith i'r Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yr haf yma, gyda Craig Bellamy y cyfaddef fod peidio â chyrraedd y rowndiau terfynol wedi "brifo'n fwy na'r disgwyl".
Bydd yn rhaid dechrau paratoi ar gyfer y rowndiau rhagbrofol nesaf ar gyfer Euro 2028 - gyda'r gystadleuaeth i gael ei chynnal yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon.
Ond mae 'na gwestiynau i'w hateb cyn yr ymgyrch honno.
Fydd Craig Bellamy dal wrth y llyw? Ac a fydd newidiadau i'r garfan dros y misoedd nesaf?
Dyfodol Bellamy
Mae Bellamy dan gytundeb gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ddwy flynedd arall, tan 2028.
Yn ddiweddar fe ddisgrifiodd ei swydd bresennol fel "yr un orau yn y byd", gan ychwanegu ei bod hi'n fraint rheoli ei wlad.
Dwi'n deall fod y chwaraewyr yn hoff iawn ohono, a'u bod nhw wrth eu boddau gyda'i sesiynau ymarfer a'r manylder mae'n rhoi iddyn nhw am y gwrthwynebwyr cyn gemau.
Mae'n ymddangos felly y bydd o'n aros. Ond mae pethau'n gallu newid yn sydyn yn y byd pêl-droed.

Bellamy yn chwarae yng ngêm ddarbi yr 'Old Firm' yn 2005
Fel rhywun sy'n llawn egni, mae Bellamy wedi cyfaddef ei hun ei fod yn ei gweld hi'n anodd llenwi ei amser rhwng gemau rhyngwladol.
Mae'n gwbl amlwg y bydd yn mynd yn ei flaen i reoli clwb yn y dyfodol - tybed be' fyddai'n digwydd yr haf yma petai Celtic yn cynnig swydd iddo?
Bydd Martin O'Neill yn gadael ar ddiwedd y tymor, ac maen nhw'n chwilio am reolwr newydd.
Mae gan Bellamy gysylltiadau cryf gyda Celtic. Treuliodd gyfnod llewyrchus yno yn 2005 gan helpu'r clwb i ennill Cwpan yr Alban - ei dlws cyntaf fel chwaraewr.
Byddai'r swydd yma yn un anodd iddo ei gwrthod, ond ar y llaw arall mae'n torri ei fol i arwain Cymru yn Euro 2028.
Fe all fod yn ddewis anodd iawn iddo ei wneud.
Ymddeoliadau a dyfnder y garfan
Yn aml iawn 'da ni'n gweld chwaraewyr yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ddiwedd ymgyrch ragbrofol.
Does bosibl mai mater o amser ydi hi cyn i Aaron Ramsey gyhoeddi fod ei yrfa fel chwaraewr ar ben.
Yn 35 oed bellach, tydi Ramsey heb chwarae ers dros saith mis ers iddo adael clwb Pumas ym Mecsico. Am wahanol resymau tydi o heb chwarae dros ei wlad ers bron i ddwy flynedd.
Yn ystod y cyfnod yna mae Cymru wedi dysgu i ymdopi hebddo, gyda Harry Wilson bellach y dewis cyntaf yn y safle tu ôl i'r prif ymosodwr.

Mae Aaron Ramsey wedi ennill 86 cap dros Gymru
Mae cyfartaledd oedran y garfan ar y cyfan yn eithaf ifanc, ond mae 'na rai chwaraewyr allweddol yn eu 30au.
Bydd Ben Davies yn 33 mewn rhai wythnosau, ac wrthi'n gwella o anaf eithaf difrifol i'w ffêr.
Ond ef yw'r capten erbyn hyn, felly does dim perygl o gwbl y bydd o'n rhoi'r gorau i chwarae dros ei wlad.
Ond tybed a fydd hi'n stori wahanol gyda Kieffer Moore, fydd yn 34 ym mis Awst?
Fel rhywun sy'n chwarae'n wythnosol i'w glwb Wrecsam ac wedi dioddef sawl anaf y tymor yma - ydi o'n gallu gweld ei hun yn dal i chwarae dros Gymru pan yn 36?
Dyw Moore heb fod yn ddewis cyntaf yn y llinell flaen dan Bellamy chwaith. Efallai y bydd hynny'n ffactor yn ei benderfyniad.

Ashley Phillips a Mikey Moore - dau sy'n gymwys i chwarae dros Gymru
Mae diffyg dyfnder o fewn y garfan wedi bod yn broblem ers blynyddoedd, ac mae'r un peth yn wir heddiw.
Fe ddaeth hynny i'r amlwg yn ystod y gêm yn erbyn Bosnia-Herzegovina pan fu'n rhaid i Bellamy ddod â Liam Cullen a Mark Harris i'r cae - dau sydd ddim yn chwarae'n rheolaidd i'w clybiau yn y Bencampwriaeth.
Mae 'na ymdrechion wedi cael eu gwneud dros y misoedd diwethaf i geisio perswadio Ashley Phillips a Mikey Moore i chwarae dros Gymru.
Mae'r ddau ar fenthyg o Tottenham Hotspur ar y funud - yr amddiffynnwr Phillips gyda Stoke a'r asgellwr Moore gyda Rangers.
Dwi'n siŵr y bydd 'na fwy o drafodaethau gyda'r ddau chwaraewr yn digwydd dros y misoedd nesaf.
Cynghrair y Cenhedloedd
Cyn i rowndiau rhagbrofol Euro 2028 ddechrau mae 'na ymgyrch i ddod yng Nghynghrair y Cenhedloedd cyn diwedd y flwyddyn.
Mae Cymru nôl yn y brif haen yn Adran A, ac maen nhw yn yr un grŵp a Phortiwgal, Norwy a Denmarc.
Os fydd Cymru yn cael ymgyrch lwyddiannus, fe fydden nhw'n saff o'u lle ymhlith yr ail ddetholion ar gyfer grwpiau rhagbrofol Euro 2028.

Mae Portiwgal, a Cristiano Ronaldo, yn yr un grŵp â Chymru yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd
Mae Bellamy yn awyddus i gael y llwybr hawsaf posib i gyrraedd yr Euros.
Mae UEFA yn gobeithio cael Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn y rowndiau terfynol - a bydd dau le wrth gefn yn cael eu cadw iddyn nhw.
Ond tydi Bellamy ddim eisiau gorfod dibynnu ar hynny.
Mae o am weld ei dîm yn gorffen un ai ar frig eu grŵp rhagbrofol neu yn yr ail safle, a chyrraedd yno mewn steil.
I hynny ddigwydd, byddai ennill gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd o gymorth mawr iddo.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
