Ymgyrch Cymru at Gwpan y Byd ar ben ar ôl colli ar giciau o'r smotyn

Ergyd Daniel JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Daniel James o thua 25 metr yn yr ail hanner

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd drosodd, ar ôl colli yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle.

Colli ar giciau smotyn oedd hanes tîm Craig Bellamy, ar ôl i'r 90 munud cyntaf ac amser ychwanegol orffen yn gyfartal nos Iau.

1-1 oedd y sgôr ar ôl 90 munud ac amser ychwanegol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Daniel James yn sgorio i Gymru ac Edin Džeko i'r ymwelwyr.

Dim ond dwywaith mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd - Sweden yn 1958 a Qatar yn 2022.

Bydd Cymru yn chwarae Gogledd Iwerddon mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth.

Harry Wilson yn erbyn Sead KolasinacFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harry Wilson fodfeddi o sgorio gôl wych yn yr hanner cyntaf

Roedd yr awyrgylch yn drydanol o'r chwiban cyntaf ac mi gychwynnodd Cymru'n dda gyda Daniel James yn achosi problemau i amddiffyn yr ymwelwyr.

Tawelodd y gêm rhywfaint ar ôl hynny ac er yr holl feddiant i Gymru, roedd hi'n agos rhwng y ddau dîm.

Tarodd Harry Wilson y postyn gydag ergyd o bell ar ôl tua 20 munud, gyda galwad am gic o'r smotyn yn mynd yn ofer yn syth ar ei hôl.

Roedd hi'n gystadleuaeth galed, gyda'r ymwelwyr yn cael nifer o gardiau melyn am stopio ymosodiadau Cymru a thaclo hwyr, ond cyfartal oedd hi ar yr hanner.

Amar Memic a Neco WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n frwydr galed gyda digon o daclo, ac roedd cyfleoedd da yn mynd i'r ddau gyfeiriad

Parhau wnaeth yr awyrgylch danllyd i'r ail hanner, a bu bron i Gymru roi cyfle euraidd i'r gwrthwynebwyr yn syth, yn dilyn blerwch ymysg yr amddiffyn.

Ond wedi pum munud cafodd y gêm ei newid yn llwyr, ar ôl i Daniel James sgorio gydag ergyd wych o'i droed dde o thua 25 metr i roi Cymru ar y blaen.

Ychydig yn ddiweddarach cafodd James gyfle da arall, gan daro gwaelod y trawst y tro yma, yn dilyn gwrth-ymosodiad effeithiol trwy Wilson.

Roedd y gêm yn agored ac roedd Bosnia-Herzegovina yn dal ynddi, gan orfodi arbediad campus gan Karl Darlow o beniad Ermedin Demirovic.

Edin Džeko yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Edin Džeko (ar y dde), sydd bellach yn 40 oed, wedi chwarae i amryw o glybiau ar y lefel uchaf

Cafodd y ddau dîm amryw o gyfleodd da wedi hynny, ond roedd yn edrych fel petai'r ymwelwyr yn dechrau cael gafael ar y gêm.

Yna cafodd yr ymosodwr profiadol, Edin Džeko, ei wobrwyo o gic gornel, gan roi ergyd i obeithion Cymru a'i gwneud hi'n 1-1.

Parhau i adeiladu a wnaeth y pwysau gan yr ymwelwyr, ond gorffennodd y 90 munud yn gyfartal, felly aeth y gêm i amser ychwanegol.

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Craig Bellamy, rheolwr Cymru, ar bigau'r drain

Cafwyd mwy o gyfleodd yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol ac fe gafodd y ddau dîm gyfnodau disglair.

Roedd coesau chwim Sorba Thomas yn rhoi egni i Gymru yn ail hanner amser ychwanegol, ac roedd tensiynau rhwng y ddwy fainc ar ochr y cae ar un pwynt.

Deffrodd hynny'r dorf yn y stadiwm a Chymru oedd y tîm oedd yn pwyso am gôl wedi hynny.

Roedd Cymru drwch blewyn o sgorio ym munud olaf y gêm, ond gorffen yn gyfartal oedd yr hanes ac felly ciciau o'r smotyn a ddaeth.

Sgoriodd Harry Wilson a Mark Harris, cyn i Brennan Johnson fethu'r targed, ac fe gafodd ergyd Neco Williams ei harbed.

Nid noson Cymru oedd hi i fod, wrth i Kerim Alajbegovic rwydo i yrru Bosnia-Herzegovina trwodd i'r ffeinal, gyda thîm Bellamy yn colli mewn modd creulon ar ôl noson yn llawn cynnwrf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.