Cymru'n cipio buddugoliaeth gul yn Albania i gadw gobaith Cwpan y Byd yn fyw

Cymru AlbaniaFfynhonnell y llun, FAW
  • Cyhoeddwyd

Ennill o 1-0 a wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru brynhawn Sadwrn, wrth iddyn nhw barhau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2027.

Albania oedd y gwrthwynebwyr yn Elbasan, gyda'r gôl benderfynol yn dod cyn yr egwyl.

Rhiannon Roberts sgoriodd unig gôl y gêm ar ôl 28 munud.

Er nad oedd y perfformiad mor argyhoeddiadol ag yn y fuddugoliaeth 4-0 dros Albania yn gynharach yn yr wythnos, llwyddodd Cymru i ddal gafael ar y tri phwynt.

Cymru AlbaniaFfynhonnell y llun, FAW

Roedd y tîm cartref wedi gwella'n sylweddol ers y gêm ddiwethaf, gan roi mwy o bwysau ar Gymru yn ystod yr ail hanner.

Cafwyd ambell foment bryderus i'r ymwelwyr, gydag Albania yn taro ffrâm y gôl yn yr ail hanner gan ddod yn agos at ddod yn gyfartal.

Serch hynny, llwyddodd Cymru i gadw ail gêm yn olynol heb ildio gôl.

Roedd y fuddugoliaeth yn un arbennig i Sophie Ingle, a ddathlodd 150 cap dros ei gwlad.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru ar yr un nifer o bwyntiau â Czechia ar frig Grŵp B1, er eu bod yn dal yn ail ar sail gwahaniaeth goliau.

Bydd y ddwy wlad yn cwrdd yn y ffenestr ryngwladol nesaf yng Nghaerdydd, mewn gêm allai fod yn allweddol i benderfynu safle terfynol y grŵp.