Pedwar chwaraewr yng ngharfan Cymru sydd eto i ennill cap

Mae Cymru wedi cael dechrau addawol i'w hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, gyda buddugoliaeth a gêm gyfartal
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar chwaraewr sydd eto i ennill cap dros eu gwlad wedi cael eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer dwy gêm yn erbyn Albania fis yma.
Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan wrth i Gymru barhau â'u hymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2027.
Mae'r golwr Lucy Farrell-Shrouder yn y garfan am y tro cyntaf oherwydd anaf i Olivia Clark, tra bod y tair arall allai ennill eu capiau cyntaf - Poppy Soper, Annie Wilding a Phoebie Poole - wedi bod yn rhan o'r garfan o'r blaen.
Bydd Cymru yn wynebu Albania yn y ddwy gêm nesaf - un gartref yn y Cae Ras yn Wrecsam ar 14 Ebrill, a'r llall oddi cartref yn Elbasan ar 18 Ebrill.
Cafodd y tîm ddechrau addawol i'w hymgyrch fis diwethaf, gyda gêm gyfartal 2-2 â'r Weriniaeth Tsiec a buddugoliaeth o 6-1 yn erbyn Montenegro yn Llanelli.
Mae Cymru yn yr ail haen y rowndiau rhagbrofol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn awtomatig.
Yn hytrach, y gobaith yw perfformio'n gryf yn eu grŵp rhagbrofol ac yna sicrhau llwybr i'r bencampwriaeth trwy'r gemau ail gyfle.
Y garfan yn llawn
Lucy Farrell-Shrouder, Safia Middleton-Patel, Poppy Soper, Hannah Cain, Mayzee Davies, Charlie Estcourt, Gemma Evans, Mared Griffiths, Ceri Holland, Elise Hughes, Sophie Ingle, Angharad James, Lois Joel, Carrie Jones, Hayley Ladd, Esther Morgan, Ffion Morgan, Phoebie Poole, Ella Powell, Rhiannon Roberts, Mia Ross, Rachel Rowe, Tianna Teisar, Annie Wilding, Lily Woodham.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth

- Cyhoeddwyd3 Mawrth
