Harry Wilson: Brenin Corwen yn gobeithio arwain y ffordd i Gymru

Harry Wilson yn dathlu sgorio hat-tric yn erbyn Gogledd Macedonia
- Cyhoeddwyd
Mae'n amhosibl i unrhyw un lenwi esgidiau Gareth Bale.
Bale yw'r chwaraewr gorau yn hanes tîm dynion Cymru, gan arwain ei wlad i'r Euros ar ddau achlysur, ac i Gwpan y Byd yn 2022.
Pan benderfynodd Bale ymddeol o bêl-droed yn 2023, roedd 'na fwlch anferth i'w lenwi. Sut oedd Cymru am ymdopi hebddo?
A bod yn deg ar Harry Wilson, mae o wedi rhoi cynnig go dda arni.
Gyda lle mewn Cwpan y Byd arall o fewn cyrraedd, mae 'na fwy o ddisgwyliadau ar ysgwyddau Wilson nag erioed o'r blaen.
Bydd Cymru yn wynebu Bosnia-Herzegovina yn y rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle nos Iau, gyda'r enillwyr wedyn yn wynebu'r Eidal neu Ogledd Iwerddon am le yn y rowndiau terfynol.

Harry Wilson yn llongyfarch Gareth Bale ar ei gôl gyntaf yn erbyn Awstria yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2026
Pedair blynedd yn ôl i'r wythnos yma fe sgoriodd Bale ddwy gôl yn erbyn Awstria yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2022.
Ychydig wythnosau yn ddiweddarach fe sgoriodd gic rydd yn y rownd derfynol yn erbyn Wcráin i sicrhau lle Cymru yn y rowndiau terfynol yn Qatar.
Os ydi Cymru am gyrraedd Yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico, tybed ai Wilson fydd yr ysbrydoliaeth y tro hwn?
Cap cyntaf
Wilson ydi'r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros dîm dynion Cymru.
Yn 16 oed fe enillodd ei gap cyntaf fel eilydd hwyr yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel yn 2013.
Digwydd bod, honno oedd gêm olaf Craig Bellamy dros ei wlad, ac ychydig funudau ar ôl i Wilson ddod i'r cae fe greodd Bellamy gôl i Aaron Ramsey i ddod â Chymru'n gyfartal.
Pan oedd Wilson yn 18 mis oed roedd ei daid - Peter Edwards - wedi gosod bet o £50 y byddai ei ŵyr yn mynd yn ei flaen i chwarae pêl-droed rhyngwladol.
Fe enillodd £125,000, gan olygu ei fod wedi gallu ymddeol flwyddyn yn gynt na'r disgwyl.

Harry Wilson yn chwarae gyda Craig Bellamy dros Gymru yn erbyn Gwlad Belg yn 2013
Y teimlad ar y pryd oedd bod Chris Coleman wedi rhoi cap i Wilson gan ei fod hefyd yn gymwys i chwarae dros Loegr.
Yn amlwg roedd Coleman wedi gweld bryd hynny fod y potensial ganddo i fod yn chwaraewr o'r safon uchaf dros Gymru am flynyddoedd maith - a doedd o ddim yn anghywir.
Be' sy'n rhyfeddol ydi fod Wilson wedyn wedi gorfod aros pum mlynedd i ennill ei ail gap, a hynny mewn buddugoliaeth o 6-0 yn erbyn China yng ngêm gyntaf Ryan Giggs fel rheolwr Cymru.
Ers y gêm honno mae Wilson wedi datblygu i fod yn chwaraewr allweddol dros ei wlad.
Serennu dros Fulham
Ar lefel clwb - fe gymrodd hi amser i Wilson ddod o hyd i gartref parhaol.
Chafodd o erioed y cyfle i sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf Lerpwl, ac oherwydd hynny fe gafodd ei yrru ar fenthyg i Crewe Alexandra, Hull City, Derby County, Bournemouth, Caerdydd, ac yn olaf Fulham.
Ar ôl tymor llewyrchus yn Craven Cottage fe gafodd ei arwyddo'n barhaol gan Fulham.

Harry Wilson yn dathlu sgorio dros Fulham
Mae Wilson wedi bod i mewn ac allan o dîm Fulham dros y tymhorau diwethaf, ond y tymor yma mae o wedi serennu.
Yn barod mae o wedi sgorio 10 gôl yn Uwch Gynghrair Lloegr, gan ennill gwobr 'gôl y mis' am ei gôl ryfeddol yn erbyn Crystal Palace ym mis Rhagfyr.
Mae ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac yn barod mae o'n cael ei gysylltu gyda rhai o glybiau mwyaf Lloegr ac Ewrop.
Bellamy yn 'datgloi' rhywbeth ynddo
Ers ymddeoliad Bale does neb wedi sgorio mwy o goliau dros Gymru.
Mae Wilson wedi rhwydo ar 12 achlysur yn y crys coch dros y tair blynedd diwethaf, gan sgorio ei hat-tric cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol yn y fuddugoliaeth o 7-1 yn erbyn Gogledd Macedonia.

Roedd Harry Wilson yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf yn y fuddugoliaeth ysgubol yn erbyn Gogledd Macedonia
Roedd Owain Tudur Jones yng ngharfan Cymru pan enillodd Wilson ei gap cyntaf yn 2013, ac mae'n credu fod gweithio gyda Craig Bellamy wedi gwneud iddo wella fel chwaraewr.
"Mae'n anhygoel fod ei stats o dros Gymru dal mor uchel achos mae o 'di bod yn chwarae lot dyfnach i'w wlad na mae o 'di 'neud drwy ei yrfa gyda'i glybiau," meddai Owain ar y bennod ddiweddaraf podlediad Y Coridor Ansicrwydd.
"Dwi'n meddwl fod chwarae o dan Craig Bellamy wedi helpu y datblygiad efo Fulham achos doedd o ddim yn dechrau bob gêm.
"Dwi'n meddwl fod Craig wedi datgloi rhywbeth yn Harry.
"Gobeithio mai wythnos yma ydi'r wythnos lle mae Harry yn coroni ei deitl o fel Tywysog Corwen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.