RNLI yn dychwelyd i rai o draethau Cymru cyn torfeydd gwyliau Pasg

- Cyhoeddwyd
Bydd achubwyr bywyd yr RNLI yn dychwelyd i oruchwylio rhai o draethau Cymru ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw ddisgwyl cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod gwyliau Pasg.
Cafodd y gwasanaeth ei gyflwyno yng Nghymru yn Sir Benfro yn 2008, ac erbyn hyn maen nhw'n bresennol ar 35 o draethau ar draws y wlad yn ystod yr haf.
Mae dros 300 o fywydau wedi eu hachub ers hynny meddai'r elusen ac maen nhw'n amcangyfrif bod dros chwe miliwn o ddigwyddiadau wedi'u hatal.
Dywedodd Tom John, sy'n achubwr bywyd yn Langland, Abertawe, eu bod "eisiau i bobl gael hwyl ond i wneud hynny'n ofalus".
Mae Tom yn annog pobl i nofio lle mae'r baneri melyn a choch
Bydd achubwyr bywyd yn dychwelyd i naw o draethau'r de-orllewin dros y gwyliau Pasg cyn i bawb ddychwelyd yn llawn yn yr haf.
Mi fydd yr achubwyr bywyd yn bresennol yn y traethau canlynol:
Bae Whitmore, y Barri: dydd Gwener, 3 Ebrill - dydd Llun, 6 Ebrill
Sandy Bay, Porthcawl: dydd Gwener, 3 Ebrill - dydd Llun, 6 Ebrill
Trecco Bay, Porthcawl: dydd Gwener, 3 Ebrill - dydd Llun, 6 Ebrill
Langland, Abertawe: dydd Sadwrn, 28 Mawrth - dydd Llun, 6 Ebrill
Caswell, Abertawe: dydd Sadwrn, 28 Mawrth - dydd Llun, 6 Ebrill
Little Side, Aberafan: dydd Gwener, 3 Ebrill - dydd Llun, 6 Ebrill
Aberafan: dydd Gwener, 3 Ebrill - dydd Llun, 6 Ebrill
Porth Mawr, Sir Benfro: dydd Sadwrn, 28 Mawrth - dydd Llun, 6 Ebrill
De Dinbych-y-pysgod: dydd Gwener, 3 Ebrill - dydd Llun, 6 Ebrill
Mae Tom John, achubwr bywyd yn Langland yn annog pobl sy'n mynd i'r traeth i nofio i fynd "i'r rhai gydag achubwyr bywyd, a nofiwch lle mae'r fflagiau melyn a coch".
"Ni'n dod 'nôl ar y traeth penwythnos yma i gadw pobl yn ofalus ar y môr.
"Ni isie pobl gael hwyl ond i bobl wneud hynna'n ofalus," meddai.
"Mae amodau'n gallu newid yn sydyn iawn."

Cafodd yr RNLI ei gyflwyno yng Nghymru yn Sir Benfro yn 2008
Yn y gogledd orllewin daeth cadarnhad gan Gyngor Gwynedd bod ganddyn nhw wardeiniaid yn bresennol ar 10 o draethau'r sir am gyfnod yn ystod y flwyddyn.
Ond, ni fydd warden ar bob un o'r 10 traeth erbyn y Pasg gan fod dyddiadau cychwyn yn amrywio rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
Y 10 traeth yw:
Dinas Dinlle
Nefyn
Aberdaron
Abersoch
Pwllheli
Cricieth
Morfa Bychan
Abermaw
Tywyn
Aberdyfi
Mae Rheolwr Cyffredinol Achubwyr Bywyd RNLI, Peter Dawes yn dweud bod "traethau'n llefydd diogel" diolch i'w swyddogion.
Ychwanegodd mai atal digwyddiadau ydy 95% o waith achubwyr bywyd a'u bod yn cadw pobl yn ddiogel drwy eu "haddysgu am ddiogelwch yn dŵr a sut i adnabod peryglon cyn i ddamweiniau ddigwydd".
"Mae achubwyr bywyd RNLI presennol a rhai'r gorffennol wedi cadw miliynau o ymwelwyr yn ddiogel dros y 25 mlynedd diwethaf a byddan nhw'n parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.