Rhun ap Iorwerth: 'Dim amserlen i refferendwm annibyniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod eisiau i'r blaid wneud yr achos dros annibyniaeth i bob math o bobl

GanDaniel Davies
Gohebydd BBC Cymru

Ni fydd Plaid Cymru yn addo amserlen ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth, meddai eu harweinydd newydd Rhun ap Iorwerth.

Dan ei ragflaenydd, Adam Price, fe wnaeth y blaid addo cynnal refferendwm o fewn pum mlynedd pe bai wedi ennill yr etholiad diwethaf.

Ond fe ddywedodd Mr ap Iorwerth, a gymerodd yr awenau ym mis Mehefin, ei fod am weld "newid pwyslais, o bosib".

Er ei fod yn "100% ymroddedig" i'r nod, dywedodd ei fod am "ddod â phobl ar siwrne' tuag at annibyniaeth".

'Tôn bositif'

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd ei fod am i'r blaid wneud yr achos dros annibyniaeth i bob math o bobl - gan gynnwys rhai oedd newydd symud i Gymru o Loegr.

"Mae [annibyniaeth] yn rhywbeth dwi'n gwbl grediniol sydd ei angen yn ymarferol er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru," meddai'r Aelod Senedd dros Ynys Môn.

"Ond siwrne' ydy hi, a dwi eisiau dod â phobl efo ni ar siwrne' tuag annibyniaeth."

Cafodd ei benodi yn arweinydd ar ôl i Mr Price ymddiswyddo yn dilyn adroddiad damniol i ddiwylliant mewnol y blaid.

Adam Price a Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd llawer o wahaniaeth rhyngddo ef ac Adam Price yn wleidyddol

Er nad oedd 'na wahaniaeth mawr rhyngddo ef a Mr Price, meddai, dywedodd bod gan y blaid gyfle "i bwyso re-set" ac i "symleiddio ein neges ni".

Dywedodd Mr ap Iorwerth, sy'n disgrifio ei hun fel gwleidydd "pragmataidd", ei fod hefyd am osod "tôn bositif" ar gyfer Plaid Cymru.

Yn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, dywedodd Mr Price y byddai am gynnal refferendwm o fewn pum mlynedd pe bai'n dod yn brif weinidog.

Yn y diwedd, fe ddaeth y blaid yn drydydd tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr. Cyfaddefodd Mr Price yn ddiweddarach y byddai annibyniaeth yn cymryd "yn hirach nag y bydden ni'n gobeithio".

'Dim tir cyffredin â'r Torïaid'

"Dydw i ddim yn gosod amserlen," meddai Mr ap Iorwerth, wrth drafod y pwnc.

"Dwi drwy fy oes wedi cefnogi annibyniaeth i Gymru, a dwi ar dân eisiau gweld y dydd hwnnw yn dod.

"Ond siwrne ydy hi a phobl Cymru sydd yn gorfod penderfynu, ar ddiwedd y dydd, beth ydy cyflymder y siwrne honno."

Ers Tachwedd 2021 mae Plaid a llywodraeth Lafur Cymru wedi bod mewn cytundeb cydweithredu, sy'n golygu cydweithio ar bolisïau gan gynnwys prydau am ddim i blant ysgolion cynradd.

Mae Mr ap Iorwerth yn parhau gyda'r cytundeb, sydd i fod i ddod i ben ar ôl tair blynedd.

Mewn strategaeth wleidyddol a gytunwyd gan eu haelodau eleni, fe ddywedodd y blaid na fyddan nhw'n cydweithio gyda'r Ceidwadwyr.

Doedd dim tir cyffredin rhwng ei blaid ef a'r Torïaid, ychwanegodd Mr ap Iorwerth.