Olew a nwy: '£200 yn help, ond mae'n dal am fod yn anodd'

Tanc olewFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu LPG yn gymwys am y taliad

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cartrefi incwm isel, wrth i brisiau tanwydd barhau i godi.

Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG) yn gymwys am daliad o untro £200, os ydyn nhw ar gynllun gostyngiadau Treth Cyngor.

Mae amcangyfrif y bydd rhwng 20,000 a 25,000 o gartrefi yng Nghymru yn gymwys am y taliad.

Mae'r arian yn rhan o £3.8m a gafodd ei roi i Gymru gan Lywodraeth y DU fis yma.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gefnogaeth hefyd yn cael ei ymestyn i'r rheiny sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol, ond nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer y taliad.

Holly Pugh a'i merch, Isabelle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Holly Pugh - yma gyda'i merch, Isabelle - yn gorfod cyfyngu ar eu defnydd o olew oherwydd y gost

Dywedodd Holly Pugh o Lanbrynmair ym Mhowys ei bod yn "gobeithio'n ofnadwy" fod prisiau olew yn dod i lawr.

"Nes i drio ordro olew cychwyn Mawrth ac o'n i wedi synnu faint oedd y prisiau wedi codi," meddai.

"Oedd o'n £645 am 500 litr, a nes i ddweud 'dydw i ddim yn gallu fforddio hynny'. Mae'n lot o bres am hanner tanc."

Fe wnaeth ei chwmni cyflenwi gynnig 350 litr iddi am £425, a bu'n rhaid iddi dderbyn hynny am fod ei chyflenwad yn dod i ben.

"Dwi 'di gorfod troi'r heating off, 'da ni'n defnyddio mwy o flancedi ar y gwely, gwisgo mwy o ddillad yn y tŷ a trio peidio defnyddio gormod o ddŵr poeth achos mae hynna'n drainio pethau lot."

Mae hi'n gobeithio y bydd hi'n gymwys am y taliad, gan ddweud bod £200 "yn help ond mae'n dal yn mynd i fod yn struggle".

Disgrifiad,

Holly Pugh fu'n rhannu ei hanes hi o ddelio gyda phrisiau olew uchel

Dyw Pat Bedford o Lanwenog yng Ngheredigion ddim yn gymwys ar gyfer y taliad, ac mae'n dweud nad yw hi'n gallu fforddio'r cynnydd ym mhris olew.

"Mae gen i hanner tanc ar ôl, ond fi ddim yn defnyddio fe," meddai.

"Fi'n dibynnu ar y log burner s'da fi yn y cyntedd, a fi'n gwisgo tair layer gyda'r nos, a het.

"Fi'n caru fy mywyd i yma - mae'n fodolaeth berffaith - ond ar adegau fel hyn mae'n teimlo fel gwlad trydydd byd.

"Dydw i ddim yn siŵr pam wnes i weithio 40 mlynedd fel gwas cyhoeddus i orfod dioddef hyn yn 2026."

Pat Bedford
Disgrifiad o’r llun,

"Bydden ni wrth fy modd yn cael rhywbeth gwahanol i olew, ond does dim," meddai Pat Bedford

Mae tua 7% o gartrefi yng Nghymru yn dibynnu ar olew fel eu prif ffynhonnell wresogi, ond mae'r canrannau yn llawer uwch mewn ardaloedd gwledig.

Mae tua thraean o gartrefi Ceredigion a Phowys yn ddibynnol ar olew, a thua chwarter yn Sir Gaerfyrddin.

"Mae gorllewin Cymru yn dechrau teimlo fel rhywle ble mai dim ond pobl gyfoethog all fyw yma," meddai Ms Bedford.

"Bydden ni wrth fy modd yn cael rhywbeth gwahanol i olew, ond does dim.

"Mae 'na boblogaeth wledig sy'n heneiddio yma, sy'n ei chael hi'n anodd.

"Mae angen i rywun ddechrau cefnogi pobl sy'n byw yma yng Nghymru."

Mae disgwyl i awdurdodau lleol gysylltu gyda phobl sy'n gymwys, yn eu gwahodd i wneud cais.

Bydd angen i bobl gadarnhau eu math o danwydd gwresogi a'u manylion banc, gyda'r taliadau'n cael eu gwneud yn syth i'w cyfrifon.

Bydd chwe mis o lansiad y cynllun i wneud cais.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiadau Treth Cyngor mae angen i bobl dderbyn un o'r canlynol, yn ogystal â chael llai na £16,000 mewn cynilion ac eiddo:

  • Credyd Cynhwysol

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

  • Cymhorthdal Incwm

Trwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, mae'r cymorth uchaf ar gyfer olew gwresogi wedi cynyddu o £500 i £750, a gall pobl bellach wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis.

'Cefnogaeth sylweddol'

Dywedodd yr ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae costau byw yn parhau i roi pwysau ar lawer o aelwydydd ledled Cymru, ac mae'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn cynyddu prisiau, gan ychwanegu at y pryder y mae llawer o bobl eisoes yn ei deimlo ynghylch talu eu biliau a gwresogi eu cartrefi.

"Mae cefnogi pobl yn ystod y cyfnod hwn o bwysau yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf.

"Bydd cyhoeddiadau heddiw yn darparu cymorth ychwanegol ar unwaith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac yn adeiladu ar y gefnogaeth sylweddol yr ydym eisoes wedi'i rhoi ar waith."

Dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru bod "Llafur, fel y Ceidwadwyr, wedi tanseilio ein diogelwch ynni gyda gwallgofrwydd sero net".

"Mae gan Reform gynllun i dorri biliau a thorri treth tanwydd i leddfu'r pwysau ar deuluoedd sy'n gweithio."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y bydd "miloedd o deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn anghymwys oherwydd natur gul y gefnogaeth".

"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio nawr i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn ymwybodol o'r taliad sydd ar gael, ac yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynllun sydd ei angen yn fawr."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod y blaid ar lefel y DU wedi lansio cynllun ynni glan a fydd yn "torri biliau ynni £200 i helpu teuluoedd a chostau byw".

"Gyda Llafur yn cynyddu biliau ynni, dim ond y Ceidwadwyr sydd â chynllun i dorri'r costau ynni uchel sy'n wynebu teuluoedd fel rhan o'n cynllun i Gael Prydain i Weithio Eto ac adeiladu economi gryfach."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.