Rhybudd am ladrad tanwydd yng nghefn gwlad wrth i brisiau godi

Mae pobl yn cael eu hannog i sicrhau bod tanciau olew a diesel wedi'u cloi
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr a thrigolion cefn gwlad Cymru yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus yn erbyn lladrad tanwydd, wrth i brisiau godi'n sylweddol.
Daw rhybudd Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru yn dilyn cynnydd sydyn mewn costau, gyda phris diesel coch yn codi dros 60% o fewn ychydig wythnosau.
Mae pris olew gwresogi hefyd wedi mwy na dyblu mewn rhai achosion, gan gynyddu'r pwysau ar gymunedau gwledig, yn ôl y gwasanaeth.
Maen nhw'n dweud bod y cynnydd hwn mewn costau yn gallu arwain at fwy o droseddau yng nghefn gwlad, gyda thanciau tanwydd yn darged i ladron.
Bil tanwydd cwmni cludo yn codi £64,000 yr wythnos yn sgil rhyfel Iran
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
'Dio'm yn lot nadi?' - Teuluoedd yn ymateb i gymorth olew gwresogi
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
'Heriau digynsail' y diwydiant olew gwresogi wrth i brisiau ddyblu
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dafydd Peredur Jones o Wasanaeth Yswiriant UAC bod y cynnydd mewn prisiau yn gwneud lladrata tanwydd yn fwy "apelgar" i droseddwyr.
Mae'r cynnydd mewn costau yn effeithio'n arbennig ar gymunedau gwledig lle mae dibyniaeth uchel ar olew.
Yn ôl Gwasanaeth Yswiriant UAC, mewn ardaloedd fel Powys, nid yw tua 55% o gartrefi wedi'u cysylltu â'r grid nwy, ac yng Ngheredigion mae'r ffigwr yn codi i tua 74%, gan adael llawer yn ddibynnol ar olew gwresogi.
Dywedodd y gwasanaeth bod cynnydd mewn costau tanwydd yn hanesyddol wedi'i gysylltu â chynnydd mewn lladradau, gyda ffermydd yn cael eu targedu oherwydd presenoldeb tanciau tanwydd a pheiriannau.
'Angen bod yn wyliadwrus ofnadwy'
Mae Dafydd Peredur Jones yn annog ffermwyr i sicrhau bod tanciau olew a diesel wedi'u cloi a bod mesurau diogelwch fel camerâu cylch cyfyng yn cael eu defnyddio lle bo'n bosibl.
Ychwanegodd nad ffermydd yn unig sy'n wynebu'r risg, ond hefyd adeiladau cymunedol fel capeli a neuaddau pentref, a bod lladron yn gallu gwagio tanciau tanwydd yn gyflym iawn.
Rhybuddiodd hefyd am oblygiadau amgylcheddol posibl, gan y gall tanwydd ollwng wrth i ladron geisio ei ddwyn.
"Os ydy'r lladron yn dwyn, dy'n nhw ddim yn poeni am ollwng olew ar y llawr ar y tir wrth ymyl, sy'n gallu golygu mwy o waith i'r perchennog tir ar y fferm," meddai.
Dywedodd nad oes modd symud llawer o danciau gan eu bod wedi'u gosod yn barhaol, gan wneud eu diogelu yn fwy heriol, a bod lladron weithiau'n difrodi pibellau neu danciau i gael mynediad at y tanwydd.
Ychwanegodd fod llawer o danciau'n dal dros 500 litr o danwydd, sy'n cynrychioli colled ariannol sylweddol os ydyn nhw'n cael eu targedu.
Mae Mr Jones yn annog pobl i gadw golwg ar lefelau tanwydd a bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau annisgwyl.
"Mae'n rhaid cadw golwg ar eich cyflenwad mewn capeli a neuaddau pentref hefyd, i 'neud yn siwr bod rhywun yn gw'bod faint sydd yna ymlaen llaw ac os oes rhywfaint yn mynd, i fod yn wyliadwrus ofnadwy," meddai.
Sefyllfa gwrtaith yn 'ansicr'
Dywedodd Mr Jones fod prisiau gwrtaith hefyd wedi codi'n sylweddol oherwydd effaith gwrthdaro rhyngwladol ar gyflenwadau nwy a chynhyrchu.
"Mae'r broses o gynhyrchu gwrtaith yn ddibynnol ar nwy, a'r gwledydd sy'n cynhyrchu gwrtaith yn y byd ydy Rwsia, China, India a'r Dwyrain Canol," meddai.
"Felly mae'r sgil effaith o beth sy'n digwydd yng ngwledydd y Dwyrain Canol yn mynd i gael effaith ar gynnydd mewn prisiau bwyd nes ymlaen gan y bydd prinder gwrtaith i gael."
Yn siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Caryl Haf, sy'n rheoli cangen cwmni amaethyddol yn y gorllewin, fod pethau'n "eitha' ansicr ar hyn o bryd" o ran argaeledd gwrtaith.
"Ma' ffermwyr angen e adeg hyn o'r flwyddyn, nid yn unig ar gyfer tyfu'r porfa ar gyfer yr anifeiliaid, ond ar gyfer pob peth arall - ar gyfer tyfu cnydau ychwanegol hefyd," meddai.
"Mae'n anodd ar hyn o bryd i fedru dod i ben a chael ychydig i bob ffermwr.
"'Da ni wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf yn cyfyngu ar yr hyn y'n ni'n gallu gwerthu i'n cwsmeriaid ni er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael ychydig er mwyn cadw fynd.
"Ni wedi dod i ben, a'n gallu codi'r cyfyngder yna, ond ni dal yn stryglo i gael y llwythi fewn i gymharu â blynyddoedd cynt."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.