Canfod corff yn Afon Taf yng Nghaerdydd

Cored RadurFfynhonnell y llun, Google maps
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw tua 09:45 fore Llun 16 Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae corff wedi cael ei ganfod yn Afon Taf yn Ne Cymru.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw tua 09:45 fore Llun 16 Mawrth yn dilyn adroddiadau bod corff yn yr afon yn ardal Cored Radur yng Nghaerdydd.

Fe ychwanegodd yr heddlu nad oedd y digwyddiad ar hyn o bryd yn cael ei gysylltu ag unrhyw achos o berson ar goll o fewn ardal Heddlu De Cymru.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig