Dim iawndal i CPD Caerdydd gan FC Nantes wedi marwolaeth Emiliano Sala

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo cytundeb i ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd pan fu farw mewn damwain awyren ddechrau 2019
- Cyhoeddwyd
Mae llys masnachol yn Ffrainc wedi dyfarnu na ddylai Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gael iawndal gan FC Nantes wedi i'r chwaraewr Emiliano Sala farw mewn damwain awyren ar ei ffordd i Gaerdydd.
Bu farw Sala, 28, a'r peilot David Ibbotson pan blymiodd yr awyren yr oedden nhw'n teithio ynddi i'r môr ger Guernsey ar 21 Ionawr 2019.
Roedd y seren bêl-droed o'r Ariannin ar ei ffordd i ymuno â CPD Caerdydd - oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ar y pryd - o Nantes am ffi trosglwyddo oedd werth £15m ar ôl arwyddo ddeuddydd ynghynt.
Ers hynny mae anghydfod wedi bod rhwng y ddau glwb gyda Chaerdydd yn hawlio iawndal o €120m (tua £104m) gan Nantes yn sgil marwolaeth chwaraewr, y maen nhw'n credu, allai fod wedi cadw'r clwb yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd Caerdydd yn hawlio mai'r asiant Willie McKay a drefnodd yr hediad, a'i fod yn gweithredu ar ran Nantes yn ystod trosglwyddiad Sala - honiad roedd y clwb o Ffrainc yn ei wadu.
Bu cyfreithwyr y ddau glwb yn dadlau eu hachos mewn gwrandawiad yn Rhagfyr 2025 wedi i glwb Caerdydd fynd â'r achos i'r llys yn 2023.
£410,000 mewn costau
Fe gyhoeddodd y llys ei benderfyniad ddydd Llun, gyda hawliad Caerdydd yn cael ei ddiystyru'n llwyr.
Fe fydd y clwb o Gymru hefyd yn gorfod talu €480,000 (tua £410,000) i Nantes ar gyfer eu costau cyfreithiol, a "niwed moesol".
Yn y penderfyniad, dywedodd y barnwr ei fod yn derbyn bod gan Willie McKay rôl fel "cynrychiolydd" FC Nantes, ond nad ef oedd trefnydd yr hediad, ac nad oedd yn ymwybodol fod yr hediad yn anghyfreithlon.
Dywedodd hefyd nad oedd Nantes ar fai am yr hediad felly, ac nad oedd Caerdydd wedi dioddef niwed i'w enw da oherwydd Nantes.
Yn hytrach, dywedodd y barnwr fod Nantes wedi dioddef "niwed moesol" oherwydd "hawliadau gormodol" Caerdydd.
Bydd yn rhaid i Gaerdydd dalu'r costau yn syth, hyd yn oed os ydyn nhw'n penderfynu apelio.
Dywedodd Capital Law, sy'n cynrychioli CPD Caerdydd, bod y clwb eto i benderfynu a fydd yn apelio, ac y bydd yn "cymryd ychydig o amser i adlewyrchu ar y penderfyniad".
Sala: Ffrae clybiau i gyrraedd pen llanw mewn llys
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mam Emiliano Sala'n cefnogi CPD Caerdydd mewn achos yn erbyn Nantes
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025
Dywedodd Celine Jones o Capital Law: "Rydyn ni'n edifar yn fawr na wnaeth y llys gydnabod cyfrifoldeb Nantes FC yn y trasiedi yma.
"Fe wnaethon ni gychwyn y broses gyfreithiol er mwyn i wirionedd llawn yr achos ddod i'r amlwg, er parch ac er cof am Emiliano Sala.
"Heddiw rydym yn nodi, gyda chwerwder mawr, nad yw egwyddorion tryloywder, uniondeb a diogelwch ym myd pêl-droed proffesiynol wedi cael ei amlygu yn y penderfyniad yma.
"Does 'na ddim unrhyw gyfiawnder, ac rwy'n credu bod hynny'n anodd i'r teulu.
"Galla i ddweud wrth gefnogwyr Caerdydd fod y clwb wedi gwneud yr hyn yr oedd yn ei ystyried oedd yn iawn, gan geisio mor galed i gael cyfiawnder, er nad yw hynny wedi bod yn llwyddiannus eto."
Roedd Mercedes Taffarel, mam Sala, yn y llys gyda chynrychiolwyr clwb Caerdydd i glywed y dyfarniad.
Mewn datganiad dywedodd cyfreithwyr Nantes eu bod yn croesawu penderfyniad y llys.
"Nid yw FC Nantes mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am y drasiedi a ddigwyddodd, ac rydym yn falch bod y llys wedi gwrando ar ein hachos ac wedi cadarnhau hyn mewn termau clir iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.