Dynion, 18, yn gwadu cynllunio ymosodiadau terfysgol yng Nghaerdydd

Rhys Edwards (chwith) a Talan Vincent (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Edwards (chwith) a Talan Vincent (dde) yn 2022/23 pan roedden nhw'n ddisgyblion ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi gwadu cynllunio ymosodiad terfysgol yn erbyn targedau Mwslimaidd ac Iddewig yng Nghaerdydd.

Mae Rhys Edwards o'r Mynydd Bychan, a Talan Vincent o'r Eglwys Newydd - y ddau'n 18 - wedi eu cyhuddo o gynllunio ymosodiadau ar Fosg Madina a Mwslimiaid yn dathlu Eid ym Mharc y Rhath.

Clywodd llys yr Old Bailey bod y ddau wedi hefyd wedi trafod ymosod ar synagog yn y brifddinas.

Plediodd y ddau yn ddieuog i gynllunio'r ymosodiadau rhwng 1 Hydref a 16 Tachwedd 2025.

Mosg Madina
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffynyddion wedi cael eu cyhuddo o gynllunio ymosodiad ar Fosg Madina yn ardal Cathays

Cafodd cais am fechnïaeth gan Talan Vincent ei wrthod gan y Barnwr Mrs Ustus Cheema-Grubb.

Cafodd yr achos ei ohirio nes mis Medi pan fydd gwrandawiad arall.

Mae disgwyl i achos llys, tair wythnos o hyd, ddechrau yn Chwefror 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig