San Steffan yn trin Cymru'n waeth na dinasoedd Lloegr - Elin Jones

- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth San Steffan yn trin Cymru "yn waeth na fel maen nhw'n trin rhai o ddinasoedd Lloegr", yn ôl llywydd y Senedd, Elin Jones.
Wrth siarad ar bodlediad Radio Cymru, Gwleidydda yn ei hwythnosau olaf yn y swydd, dywedodd ei bod yn "synnu a rhyfeddu" nad yw'r llywodraeth Lafur yn Llundain "yn dangos y parch y dylen nhw i Lywodraeth Cymru".
Ar ôl 10 mlynedd fel llywydd, mae'r aelod Plaid Cymru yn ildio'r awenau ond yn gobeithio dychwelyd i'r Senedd ar ôl yr etholiad ym mis Mai.
Mae ganddi brofiad o 27 mlynedd fel Aelod o'r Senedd, ac fe ddywedodd ei bod hi'n parhau i fod yn barod i wasanaethu mewn unrhyw rôl yn y dyfodol, er nad yw'n dymuno bod yn weinidog iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi "ymrwymo'n llwyr i ddatganoli ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth wirioneddol â Llywodraeth Cymru".

Wrth edrych yn ôl dros y ddegawd diwethaf fel llywydd mae Elin Jones yn hel atgofion ar bodlediad diweddaraf Radio Cymru, Gwleidydda
Elin Jones yw'r unig aelod presennol o Blaid Cymru sydd â phrofiad o fod yn weinidog, ar ôl bod yn weinidog amaeth yn ystod y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru rhwng 2007 a 2011.
Ond mae hi'n mynnu os daw'r cyfle eto, ei bod yn barod i wneud yr hyn y bydd Plaid Cymru eisiau iddi wneud, ond "fydda i ddim eisiau bod yn weinidog iechyd a dwi 'di dweud hynny wrth Mam yn barod".
"Fysa Mam isio i fi fod ar y meinciau cefn, does dim dowt am hynny," meddai.
Mae hi'n cydnabod bod cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth iechyd "yn her i unrhyw weinidog, dwi 'di gweld gweinidogion lu yn y lle yma yn ysgwyddo'r baich dros y gwasanaeth iechyd ac mae'n heriol i bob un ohonyn nhw, ac fe fydd yn heriol yn y llywodraeth nesaf".
Gwleidydda: Y Llywydd - Degawd yn y Gadair
Llywydd y Senedd, Elin Jones, sy'n ymuno yn ei hwythnosau olaf yn y swydd
Wrth edrych yn ôl dros y degawd diwethaf fel llywydd y pethau mae hi'n fwyaf balch ohonyn nhw yw ei bod wedi "comisiynu gwaith Laura McAllister ar ehangu'r Senedd yma, rhoi cychwyn ar hynny, rhoi cychwyn hefyd ar y drafodaeth ar bleidleisiau 16 ac 17".
"Mae lot fawr o'r pethau o'n i â diddordeb ynddyn nhw i gychwyn yn 2016 nawr yn cael eu gwireddu yn yr etholiad y'n i ar fin ei chynnal yng Nghymru."
Dywedodd y byddai Senedd gyda 96 o aelodau yn cynnig mwy o gapasiti i "ysgwyddo cyfrifoldebau newydd".
Pwysleisiodd, os yw'r "mwyafrif yma yn y Senedd ac o blith pobl Cymru am weld datganoli grymoedd ychwanegol, yna y dylai llywodraeth San Steffan fod yn anrhydeddu hynny".

Dywedodd am ei rôl fel llywydd mai "plesio neb sydd orau" yn lle ceisio plesio pawb
Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn "synnu a rhyfeddu ambell waith" nad yw llywodraeth San Steffan bob amser "yn dangos y parch y dylen nhw i Lywodraeth Cymru, yn enwedig i Lywodraeth Cymru o'r un plaid â nhw.
"Yr hyn sy'n rhyfeddu fi'n aml yw gymaint, ambell waith, yn fwy o barch sydd gan lywodraeth San Steffan at rai o'r dinasoedd neu siroedd yn Lloegr, yn barod i drafod datganoli pellach i'r dinasoedd a siroedd hynny."
Er bod Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn y Senedd am weld grymoedd dros blismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli, yn ôl Elin Jones mae llywodraeth Syr Keir Starmer yn fodlon "ystyried cryfhau'r pwerau hynny yn rhai o ddinasoedd Lloegr" ond nid yng Nghymru.
Dywedodd nad yw'r llywodraeth yn "barod i ystyried, a dweud y gwir yn dweud 'na o'r foment cyntaf, i ystyried datganoli pellach ar gyfiawnder a heddlua i Gymru'."
Dywedodd mai ei chyngor i'r llywydd nesaf yw y gallent deimlo weithiau "bod angen plesio pawb" ond fel llywydd "plesio neb sydd orau".
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y DU "maen nhw bob amser wedi cyflawni blaenoriaethau pobl ar draws pedair gwlad y DU ac mi fyddan nhw bob amser yn gwneud hynny".
Fe ychwanegodd: "Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi datganoli cyllid cymorth cyflogaeth, pwerau rheoleiddio dŵr a phwerau treth tir i Gymru.
"Mae hefyd wedi diwygio'r fframwaith cyllidol i gryfhau pwerau gwario Llywodraeth Cymru ac wedi adfer rôl Llywodraeth Cymru o ran gwneud penderfyniadau am gyllid ôl UE."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2025

- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd2 Mawrth
