'Amser Llafur ar ben' medd Plaid Cymru wrth lansio ymgyrch etholiad

Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae amser Llafur ar ben," meddai Rhun ap Iorwerth yn lansiad ymgyrch Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd

GanRhodri Lewis
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi lansio ei hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd, gan ddweud bod dyddiau Llafur mewn grym ar ben.

Dywedodd arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth fod eu haddewidion dros Gymru wedi'u costio'n llawn, ond nad yw ei blaid yn cymryd unrhyw bleidlais yn ganiataol.

Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod am dorri rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, codi safonau ysgolion a mynd i'r afael â thlodi plant.

Bydd yr etholiad yn digwydd ar 7 Mai. Mae arolygon barn yn awgrymu y gallai Plaid Cymru ennill mwy o seddi nag unrhyw blaid arall.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n credu bod stori'r etholiad hwn yn glir iawn, yr etholiad pwysicaf yn hanes datganoli.

"Mae amser Llafur ar ben. Mae hwn nawr yn ddewis uniongyrchol rhwng Plaid Cymru a Reform, rhwng gobaith a rhwyg, rhwng hygrededd ac anhrefn.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl gefnogi gweledigaeth Plaid Cymru, y gobaith a gynigwn er mwyn sicrhau bod y cyfnod nesaf yng Nghymru yn un o newid go iawn ac ystyrlon."

Mae'r blaid wedi rhestru chwe blaenoriaeth:

  • Torri rhestrau aros y gwasanaeth iechyd a chyflymu amseroedd triniaeth;

  • Gofal plant am ddim gwerth £30,000;

  • Codi safonau ysgolion;

  • Creu swyddi â chyflog da a chynllun i gefnogi busnesau;

  • Mynd i'r afael â thlodi plant;

  • Sefyll lan dros Gymru i gael bargen deg gan San Steffan.

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwe blaenoriaeth wedi'u costio'n llawn, meddai Rhun ap Iorwerth

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y rhain wedi'u costio'n llawn.

"Mae popeth rydyn ni wedi'i wneud wedi bod yn ymwneud â sicrhau bod gennym ni raglen sydd wedi'i chostio'n ofalus, sy'n gyflawnadwy, fel y gallwn ni wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ar iechyd ac addysg, ar y cynnig gofal plant, ar greu swyddi gwell trwy ein hasiantaeth ddatblygu newydd i Gymru.

"Mae gwneud y gwaith hwnnw yn y cyfnod cyn yr etholiad hwn yn rhoi hyder gwirioneddol i mi. Mae hynny'n rhoi hyder i bobl Cymru.

"Rwy'n credu bod Plaid Cymru yn barod yma, ond nid ydym yn cymryd unrhyw bleidlais yn ganiataol.

"Mae'n rhaid i ni weithio'n galed dros bob un."

'Cyfrifol, radical, credadwy'

Roedd y lansiad yn Neuadd y Gweithwyr ym Medwas, a ddewiswyd yn fwriadol gan y blaid gan ei bod yn etholaeth Lindsay Whittle, a enillodd isetholiad Caerffili fis Hydref.

Yn ystod ei araith i aelodau'r blaid ac ymgeiswyr, dywedodd Lindsay Whittle mai "y gelyn" oedd San Steffan, ond yn ddiweddarach dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn chwilio am berthynas gadarnhaol â Llywodraeth y DU.

"Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn, iawn fy mod am gael perthynas adeiladol iawn â phrif weinidog y DU, gan sefyll dros Gymru mewn ffordd nad ydyn ni erioed wedi'i gweld gan Lywodraeth Gymreig o'r blaen," meddai.

"Dyna'r llywodraeth gyfrifol, radical, gredadwy y mae Plaid Cymru yn ei chynnig.

"Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r polau piniwn yn adrodd un fath o stori, ond dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw bleidlais yn ganiataol."

Bydd yr etholiad ar 7 Mai yn gweld 96 o aelodau'n cael eu hethol i Senedd Cymru, trwy system o gynrychiolaeth gyfrannol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.