Beth ydy dy hoff reg Cymraeg?

- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae'r erthygl yma yn cynnwys iaith y gall rhai pobl ei hystyried yn anweddus
Beth ydy dy hoff reg Cymraeg?
Dyna oedd Joanna Człapa eisiau ei wybod, fel rhan o waith ymchwil i regfeydd ac ymadroddion Cymraeg ar gyfer ei BA.
A'r hyn sy'n anhygoel yw mai dim ond ers cwta bum mlynedd mae Joanna yn dysgu Cymraeg, a hynny yng Ngwlad Pwyl.
'Geirfa ddyddiol' ar goll o'r cwrs
Wrth gwrs, pan ddechreuodd hi ddysgu Cymraeg, doedd hi ddim yn gwybod unrhyw reg, achos dydy geirfa felly ddim yn cael eu cynnwys mewn cyrsiau Cymraeg.
Dechreuodd ei diddordeb mewn rhegfeydd a dywediadau wrth astudio cyfieithiad Elin Meek o'r llyfr Matilda gan Roald Dahl. Wrth ddarllen, daeth ar draws nifer o ymadroddion ac ebychiadau oedd yn anghyfarwydd iddi, meddai.
"Yn Matilda, roedd pethau mwy traddodiadol, ac o'n i eisiau gwybod beth arall oedd. Pan o'n i'n ysgrifennu fy uned BA, o'n i angen erthyglau o amgylch rhegfeydd ac ati, ond does dim! Dyna pam ro'n i'n meddwl dwi eisiau trio ymchwilio i'r pwnc.
"Mae'n ddiddorol i glywed beth mae pobl yn ei feddwl ac os ydyn nhw'n defnyddio geiriau fel yna neu ddim.
"Mae llawer o bobl yn meddwl fod yna ddim llawer o eirfa rhegfeydd yn Gymraeg. Ro'n i'n synnu, achos mae llawer."

Roedd Joanna wrth ei bodd yn cael dod i Gaernarfon, a chael prynu bara brith drwy'r Gymraeg a dysgu ambell i reg newydd!
Wrth holi siaradwyr Cymraeg, ac ar ymweliad â Chaernarfon ym mis Gorffennaf 2025 fel rhan o'i gwaith ymchwil, mae hi wedi dod i ddysgu nifer o ymadroddion newydd – gyda rhai wedi codi ael a chodi gwên!
"O'n i'n meddwl fod [y gair] ddim yn rhywbeth neis i alw rhywun, ond yng Nghaernarfon, dyna sut mae pobl yn cyfarch ei gilydd!
"O'n i'n chwerthin bob amser, a bod yn onest! A dywedodd rhywun 'cont y môr' ac o'n i'n chwerthin!"
Rhai o hoff regfeydd Joanna
Nefoedd Wen: Dwi'n ei hoffi ond dwi ddim yn siŵr pam. Dwi'n meddwl achos ei fod yn hir, mae'n rhoi amser i mi feddwl pan dwi 'di gwylltio, cymryd cam yn ôl a galla i gario 'mlaen!
Nefi blw
Esgyrn Dafydd
Pen dafad: Dwi ddim wedi disgwyl ei fod e'n bosib galw rhywun yn 'pen dafad' ac mae'n golygu rhywbeth aflednais (offensive)!
Sudd y ddraig: Ro'n i'n synnu am hwn, achos mae dreigiau yn hyfryd! Efallai ei fod e'n broblem gyda'r sudd?!
Malu cachu: Eithaf llythrennol, efallai hyd yn oed defnyddiol weithiau.
Rhegfeydd: Geiriau i'w hosgoi?
Ar y cyfan, roedd pobl yn hapus i drafod y pwnc gyda Joanna, heblaw am ambell i ddyn oedd 'ddim eisiau siarad am y pwnc yna gyda merch'.
Felly ydy pobl yn teimlo fod rhegfeydd yn eiriau annymunol sydd angen eu hosgoi, neu yn rhan o iaith bob dydd? Mae'r farn yn gymysg, eglurai:
"Mae llawer o bobl yn credu fod rhegi yn rhan o iaith, ond o ran y Gymraeg, mae'n fwy cymhleth achos fod llawer o bobl yn rhegi yn Saesneg – a llawer o ffyrdd i ysgrifennu rhegefydd Saesneg yn Gymraeg.
"Mae rhan o'r bobl yn meddwl fod geiriau rhegi yn Gymraeg yn fwy aflednais ond mae llawer yn credu fod rhegfeydd Saesneg yn fwy aflednais...
"A bod yn onest, dwi ddim yn meddwl fod dim yn aflednais nawr achos ar ôl gwneud yr ymchwil, mae jyst yn eirfa ac mae pobl yn defnyddio geirfa a dyna ni!"
Syrthio mewn cariad â'r Gymraeg
Sut fod myfyriwr o Wlad Pwyl wedi dod i wneud gwaith ymchwil ar regfeydd Cymraeg yn y lle cyntaf?
Syrthiodd Joanna mewn cariad â'r iaith yn 2021, pan y penderfynodd ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym mhrifysgol Poznań, meddai.
"Pan o'n i'n blentyn, o'n i'n mwynhau darllen pethau fel chwedlau am y Brenin Arthur, ac ro'n i'n mwynhau cerddoriaeth Wyddelig. A chlywais i fod Adran Geltaidd gyda ni yng Ngwlad Pwyl, ac o'n i'n meddwl, pam lai?!
"Mae dwy iaith Geltaidd yn y brifysgol – Cymraeg a Gwyddeleg, a llên a dipyn bach o socio-linguistics, a dyna hoffwn i ei wneud yn y dyfodol, gobeithio.
"Dwi nawr yn cario 'mlaen gyda Dysgu Cymraeg Gwent a Dysgu Cymraeg Sir Benfro."
Bellach, mae Joanna yn gweithio ar ei MA, ac yn ymchwilio i eiriau benthyg Saesneg o fewn y Gymraeg, ond y cam nesaf yw gwneud cais i wneud PhD gan ganolbwyntio ar regfeydd.
"Dwi isie cario 'mlaen gyda'r testun achos mae'n ddiddorol. Dwi'n credu fod mwy i'w ddarganfod.
"Dwi'n meddwl, gyda iaith leiafrifol, mae hi'n bwysig i ddysgu achos dyma eirfa ddyddiol pobl.
"Byddai hi'n neis i allu dysgu geirfa felly mewn cyrsiau, achos mae'n rhan o iaith ddyddiol. Gyda chyrsiau ar gyfer oedolion, pam lai?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd26 Hydref 2025
