Beiciwr modur 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger cyffordd 24 ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur 61 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ar yr M4.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 24 ar yr M4, ar gyrion Casnewydd, tua 16:10 ddydd Iau.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Audi Q8 glas a beic modur Triumph Trident gwyn.
Cafodd y dyn lleol oedd ar y beic modur ei gludo i'r ysbyty, ble cafodd ei gyhoeddi'n farw.
Dywedodd yr heddlu nad oes unrhyw un wedi'i arestio, a bod yr heddlu'n ymchwilio i amgylchiadau'r ddamwain.
Mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau dashcam perthnasol, i gysylltu â nhw.