Apêl wedi marwolaeth bachgen, 16, mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Cafodd Heddlu'r De eu galw i wrthdrawiad ger cyffordd Heol Penarth a Heol Clare am 12:25 ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 16 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a seiclwr yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i wrthdrawiad rhwng SsangYong Tivoli coch a seiclwr ger cyffordd Heol Penarth a Heol Clare am 12:27 ddydd Mercher.
Dywedodd y llu bod y seiclwr, bachgen 16 oed o Grangetown, wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r bachgen yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae gyrrwr y car yn cynorthwyo ymholiadau'r heddlu wrth i'w hymchwiliad barhau.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Debbie Hobrough, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae ein hymchwiliad i'r digwyddiad trist a thrasig hwn yn parhau ac rydym yn gofyn am gymorth y cyhoedd wrth i ni geisio deall yr hyn a ddigwyddodd."
Mae'r cyffordd lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn un prysur, meddai, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu delweddau o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Ychwanegodd y dylai pobl ystyried yr effaith ar deulu'r dioddefwr cyn rhannu lluniau o'r digwyddiad ar-lein.