Llyfrgell Genedlaethol i elwa o 'gyfle cyffrous' i gydweithio ag eraill

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhan o un o'r 12 prosiect fydd yn elwa
- Cyhoeddwyd
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn arian yn sgil cydweithio rhwng llywodraethau'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar brosiectau diwylliannol.
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, a'r Taoiseach Micheál Martin wedi cyhoeddi buddsoddiad o €5m ar gyfer 12 prosiect.
Yn rhan o un o'r 12 prosiect sy'n elwa, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Mae'r prif weithredwr, Dr Rhodri Llwyd Morgan, wedi dweud ei fod yn "gyfnod ac yn gyfle cyffrous iawn i ni".
'Mwy wedi dod drwy ddrysau'r Llyfrgell Gen y llynedd nag ers 2011'
- Cyhoeddwyd20 Mai 2025
2,200 o eitemau ar goll yn y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2025
Penodi pennaeth newydd y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2024
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o gynllun rhwng llywodraethau'r DU ac Iwerddon i gryfhau'r berthynas ar ôl Brexit.
Mae disgwyl i'r 12 prosiect fydd yn elwa gael eu cynnal rhwng 2026 a 2030.
Mae'r prosiect penodol y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhan ohono ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a'r Llyfrgell Brydeinig.
Ei nod ydy archwilio dwy thema o ymgysylltu ag ymwelwyr, sef arbenigrwydd diwylliant, straeon ac iaith yr ynysoedd a'r cysylltiadau rhwng cymunedau a'r dylanwad y mae'r gwledydd wedi'i gael ar ei gilydd.

Croesawodd Dr Rhodri Llwyd Morgan y cyhoeddiad, gan ddweud ei bod hi'n "gyfnod ac yn gyfle cyffrous iawn i ni"
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan ar raglen Dros Frecwast y byddai'r cydweithio rhwng y llyfrgelloedd cenedlaethol yn golygu €750,000 dros bedair blynedd.
"Mae hynny er mwyn hybu cydweithio rhwng y sefydliadau, arddangosfeydd newydd, gwaith ymchwil newydd, rhaglenni gwahanol digidol, datblygu defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.
"Mae'n gyfnod ac yn gyfle cyffrous iawn i ni."
Cytunodd y bydd yn rhaid neilltuo'r arian ar gyfer pethau penodol, gan ddweud ei bod hi'n "gyfnod da iawn er mwyn gallu cyhoeddi hyn".
"Dwi draw yng Nghorc ac wedi bod yn rhan o ddigwyddiad neithiwr lle ma'r prosiectau wedi cael eu cyhoeddi," meddai.
"Mae 'na uwch-gynhadledd yn digwydd heddiw a rhagor o drafod a chydweithio ar draws y llywodraethau yn sgil Brexit i drio adfer a gwella perthnasau."
'Dathlu'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw'
Ychwanegodd: "O ran ni a'r gwaith ry' ni yn ei wneud, mae 'na agweddau ar gasgliadau hanesyddol yn ymwneud gyda'r ieithoedd Celtaidd.
"Dathlu dau beth mewn ffordd, sef yr hyn sy'n ein gwneud yn unigryw fel gwledydd a diwylliannau a'r hyn sy'n ein cysylltu ni - yr hanesion sy'n cael eu rhannu gan ein pobloedd.
"Mae e'n mynd i fod yn hwb i ni'n sicr o ran gallu gwneud mwy i ymgysylltu gyda chymunedau a chynulleidfaoedd yng Nghymru, ond Cymry hefyd sydd â chysylltiadau dramor.
"Dyw e ddim, mewn ffordd, yn ychwanegu at y sylfaen, ond mae'n sicr yn rhoi cyfleoedd a'r gallu i ni 'neud mwy i gyrraedd cynulleidfaoedd yn ddigidol a hefyd mewn person."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.