Cyn-gefnwr Cymru Liam Williams yn ymddeol o rygbi proffesiynol

Enillodd Williams 93 o gapiau dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Liam Williams, un o fawrion y tîm rygbi cenedlaethol dros y degawd diwethaf, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gamp.
Fe wnaeth Williams, a enillodd 93 o gapiau dros Gymru, ymddeol o rygbi rhyngwladol ym mis Ionawr.
Fe enillodd Williams Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddau achlysur - gan gynnwys Camp Lawn yn 2019 - ac fe chwaraeodd mewn pum gêm brawf i'r Llewod yn ystod teithiau 2017 a 2021.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd fod anaf parhaus i'w ben-glin yn ffactor y tu ôl i'w benderfyniad.
Dywedodd: "Dwi'n ddiolchgar am bob atgof, a diolch i bawb wnaeth fy nghefnogi ar hyd y ffordd.
"Roedd yn daith arbennig, ond amser rhoi fy nhraed i fyny. Ymlaen i'r bennod nesaf."

Roedd Williams yn rhan hanfodol o'r garfan enillodd y Gamp Lawn yn 2019, ac yn seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr
Ar ôl dechrau ei yrfa fel chwaraewr amatur tra'n gweithio fel sgaffaldiwr yng ngwaith dur Port Talbot, fe chwaraeodd Williams ei gêm broffesiynol gyntaf i'r Scarlets ym mis Medi 2011.
Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach yn erbyn y Barbariaid , ac fe gafodd ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Awstralia yn haf 2012.
Aeth ei yrfa gyda'r tîm cenedlaethol o nerth i nerth gan ymddangos ym mhob gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014, ac roedd yn un o hoelion wyth y garfan wedi hynny.
Roedd Williams yn rhan hanfodol o'r tîm enillodd y gamp lawn yn 2019, ac yn seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr.
Aeth yn ei flaen i ennill y bencampwriaeth yn 2021 hefyd, ac fe gynrychiolodd ei wlad mewn tair Cwpan y Byd - yn 2015, 2019 a 2023.
O ran ei yrfa ddomestig, fe chwaraeodd Williams i'r Scarlets am saith mlynedd yn ogystal â threulio cyfnodau gyda'r Saracens, Caerdydd a Kubota Spears cyn ymuno â Newcastle Red Bulls y llynedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.