Ceredigion: Apêl am wybodaeth ar ôl i berson farw mewn gwrthdrawiad

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A482 yn ardal Llanbedr Pont Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngheredigion lle bu farw gyrrwr.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chiliau Aeron tua 21:30 ar nos Fawrth 24 Mawrth.
Dywedodd yr heddlu mai Renault Clio du a Peugeot 208 du oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Bu farw gyrrwr y Renault ar y safle, ac mae teulu'r unigolyn wedi cael gwybod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 neu drwy eu gwefan.
Mae swyddogion hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y digwyddiad ac sydd â lluniau camera dash-cam.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.