'Ased cymunedol': Pafiliwn Pontrhydfendigaid ar werth am £350,000

Mae'r pafiliwn yn cael ei adnabod fel Pafiliwn Pantyfedwen ar ôl y sylfaenydd gwreiddiol, Syr David James Pantyfedwen
- Cyhoeddwyd
Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion wedi mynd ar werth ar y farchnad agored am £350,000.
Fe ddaw hyn ar ôl i Bwyllgor Eisteddfod Pontrhydfendigaid, sy'n rhedeg y pafiliwn, gyhoeddi yn ôl ym mis Tachwedd eu bod yn bwriadu gwerthu'r safle oherwydd costau uchel.
Mae'n un o'r lleoliadau mwyaf ar gyfer cyngherddau yn y gorllewin gyda hysbyseb Morgan & Davies yn dweud bod yr adeilad yn "ased cymunedol pwysig", ac yn gynnig "unwaith mewn cenhedlaeth".
Dywedodd Efan Williams sydd ar y pwyllgor ei bod hi'n "parhau'n sefyllfa anodd iawn i bawb ond ni'n gobeithio yn y pen draw cael y datrysiad mwayf positif i bawb".

Roedd dros 60 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus ym mis Tachwedd 2025 i drafod dyfodol y pafiliwn
Mae lle i 2000 o bobl yn yr awditoriwm, mae'r safle'n 2,400 metr sgwâr ac yn cynnwys maes parcio i 200 o geir a 7.3 erw o dir o'i amgylch.
Fe gafodd y safle ei ddifrodi gan dân yn 2002 ac fe aeth y gymuned ati i godi'r arian i'w adnewyddu. Hyd yn hyn mae'r gymuned wedi llwyddo i gynnal y safle.
Gyda'r costau o redeg y safle wedi cynyddu i £20,000 y flwyddyn yn ôl, fe ddywedodd y pwyllgor rheoli bod hynny'n anghynaladwy erbyn hyn.
Mae pwyllgor y pafiliwn yn awyddus i barhau i gynnal digwyddiadau yn y pafiliwn eleni, medden nhw.
Yn y cyfarfod ddiwedd y llynedd fy ddywedon bryd hynny y bydd y pafiliwn yn cael ei roi ar y farchnad agored er mwyn "archwilio pob posibilrwydd wrth geisio dod o hyd i ddatrysiad hir dymor".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2025
