Ruby Evans y cyntaf o Gymru ers degawdau i fod yn bencampwr Prydain

Ruby Evans ben i waered yn yr awyr wrth gystadlu yn rownd y bariauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill," meddai Evans ar ôl cipio'r safle cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Ruby Evans wedi cael ei choroni'n bencampwr ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Artistig Prydain yn Lerpwl.

A hithau'n troi'n 19 oed yr wythnos hon, Evans ydy'r athletwr cyntaf o Gymru i hawlio'r teitl ers dros 60 mlynedd, gan orffen o flaen Ruby Stacey a Shantae-Eve Amankwaah.

"Fi'n teimlo'n dda, fi'n hapus," meddai Evans ar ôldod i'r brig ddydd Sadwrn yn Arena M&S Bank.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill."

Ruby Evans, gyda medal aur am ei gwddf, yn cydio yn ei thlwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ruby Evans ydy'r athletwr cyntaf o Gymru i hawlio'r teitl ers dros 60 mlynedd

Ychwanegodd ei bod yn "falch o'r daith" y mae hi wedi bod arni.

"Synnais fy hun gyda sut aeth y gystadleuaeth," dywedodd.

"Dechreuais ar drawst, doedd e ddim mor dda â hynny - mor simsan.

"Roedd fy nghoesau'n crynu, roedd popeth yn crynu, doeddwn i methu aros i ddod ffwrdd."

"Roedd rownd y llawr yn dda, nes i ddim cynhesu'n dda ar y naid a dyna oedd fy un cyntaf eleni ac fe wnes i fe.

"Mae hyn yn rhoi cymaint o hyder i mi wrth fynd i mewn i'r flwyddyn sydd i ddod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig