Fy modryb a saethodd Mussolini

Violet Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Violet Gibson ei dal gan yr heddlu ar ôl y digwyddiad

GanTrystan ab Ifan
Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ar 7 Ebrill 1926 fe gamodd Gwyddeles allan o dorf yn Rhufain a saethu at un o unbeniaid mwyaf adnabyddus yr 20fed ganrif.

Fe grafodd y fwled drwyn Benito Mussolini ar ôl iddo droi ei ben ar yr eiliad dyngedfennol, ac o ganlyniad fe oroesodd arweinydd Yr Eidal yr ymgais ar ei fywyd.

Pe bai Violet Gibson wedi taro ei tharged, fe allai fod wedi newid cwrs hanes Ewrop. O'r bedair ymgais ar fywyd Il Duce, un y wraig 50 oed, ddaeth agosaf.

Canrif union yn ddiweddarach, mae ei gor-nith, Philippa Gibson, sy'n byw ym Mhontgarreg ger Llangrannog yng Ngheredigion, yn edrych yn ôl ar fywyd ei modryb a beth oedd y cymhelliant tu ôl i'w hymosodiad.

MussoliniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mussolini anaf i'w drwyn yn unig gan y fwled

Yn siarad ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, esboniodd Philippa Gibson sut cafodd ei modryb ei geni i mewn i deulu bonedd Torïaidd Eingl-Wyddelig yn 1876.

Roedd hynny cyn troi ei chefn ar Brotestaniaeth a mabwysiadu'r ffydd Gatholig, ynghyd â thueddiadau sosialaidd, a chyfiawnder cymdeithasol.

"Roedd Violet yn ferch i'r Arglwydd Ashbourne, Arglwydd Ganghellor yr Iwerddon ac un o ffigyrau amlwg y Torïaid yn ystod yr 19eg ganrif.

"Roedd hi yn dod o deulu cyfoethog, roedd hefyd yn 'debutante' yn llys y Frenhines Fictoria. Cafodd ei haddysgu gartref a chafodd ei brodyr eu danfon i ysgolion bonedd.

"Hefyd fe fuodd hi yn sâl iawn yn gorfforol yn ystod ei phlentyndod ond yn ddiweddarach fe gafodd arian gan ei thad a alluogodd hi i fyw bywyd annibynnol."

Willie GibsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Willie Gibson oedd brawd mawr Violet

Yn ystod ei bywyd cynnar, cafodd Violet ei tharo gan amryw o drasiedïau, fel esboniodd Philippa Gibson:

"Bu farw ei dyweddi yn ddyn ifanc iawn cyn y briodas, yna bu dau o'i brodyr farw ynghyd â nifer o aelodau eraill o'i theulu ond y dylanwad mawr oedd ei brawd mawr, Willie.

"Roedd e yn bendant o blaid hunanlywodraeth i'r Iwerddon, roedd yn siaradwr Gwyddeleg ac o ganlyniad roedd y teulu yn ffyrnig yn ei erbyn e, er taw fe oedd etifedd teitl ei dad, fe gafodd ei ddiarddel."

Philippa Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Philippa yn falch o ddaliadau ei modryb, ond nid ei dewis i weithredu'n dreisgar

Yn ôl yn Yr Eidal yn y cyfnod yn arwain at y weithred, roedd Mussolini wedi llwyddo i gymryd yr awenau a nifer o'i wrthwynebwyr gwleidyddol wedi'u ffrwyno neu hyd yn oed eu lladd.

Yn wir, mae'n debyg taw llofruddiaeth Giacomo Matteotti, un o brif arweinwyr sosialaidd y wlad dwy flynedd ynghynt, sbardunodd Violet Gibson.

"Tra yn Yr Eidal fe ddysgodd hi'r iaith ac hefyd yn gwneud gwaith da o ran edrych ar ôl y tlodion. Bu hefyd yn rhannu arian gyda nhw i geisio atal peth o'r tlodi," meddai Philippa.

"Ar y llaw arall fe welodd dwf ffasgiaeth ac roedd yn gas ganddi hynny, a'r creulondeb a'r trais. Roedd hi yn ei weld fel rhywbeth hollol erchyll.

"Iddi hi, gwaith mawr ei bywyd oedd tynnu mas Mussolini trwy ei ladd. Dyna oedd ei chenhadaeth ac roedd hi yn hollol barod i aberthu ei hunan i 'neud hynny."

Ar y diwrnod tyngedfennol roedd Mussolini wedi bod yn siarad o flaen cynhadledd o lawfeddygon. Roedd ar fin annerch ei ddilynwyr ond doedd neb yn amau'r wraig fach eiddil a wthiodd i flaen y dorf.

Yn ôl rhai, ar yr union foment taniodd Violet Gibson yr ergyd, fe drodd Mussolini ei ben i edrych at griw oedd wedi taro nodau cyntaf cân o glod iddo. O ganlyniad fe grafodd y fwled ei drwyn yn hytrach na'i daro yn ei ben.

Aeth ymlaen i geisio am ail ergyd ond fe fethodd y gwn ac erbyn hynny roedd y dorf wedi ei hamgylchynu a dechrau ymosod arni.

Mae Philippa Gibson yn esbonio ymhellach: "Roedd yr heddlu wedi ei hachub a ro'n nhw eisiau gwybod beth oedd ei chymhelliant, doedden nhw hefyd ddim isie iddi hi gael ei lladd yn y fan a'r lle, achos ro'n nhw eisiau gwybod beth oedd wedi digwydd."

MussoliniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Philippa yn credu bod y digwyddiad wedi cryfhau sefyllfa Mussolini ar y pryd

Yn ôl adroddiadau fe wfftiodd Mussolini yr ymgais ar ei fywyd yn syth ar ôl yr ymosodiad gan ddweud ei fod yn hollol iawn a bod dim eisiau gofidio dim.

"Mae'n atgoffa fi o'r ymgais i ladd Donald Trump… ag yntau yn codi ac yn dweud yn syth 'fight, fight, fight'."

Mae Philippa yn credu i'r digwyddiad yn 1926 gael effaith i'r gwrthwyneb i'r hyn obeithiwyd, ac fe dynhaodd Mussolini ei afael ar y wlad ac ar feddyliau pobl.

'Ddim yn wallgo' mewn unrhyw ffordd'

Ar ôl cyfnod yn y ddalfa a'r ysbyty, penderfynwyd anfon Violet Gibson yn ôl i Brydain ar ôl dod i'r casgliad ei bod hi yn wallgof.

Roedd hi wedi cael cyfnodau o broblemau iechyd meddwl a hyd yn oed cyn yr ymgais ar fywyd Mussolini roedd wedi tynnu cyllell ar berson ar y stryd yn Llundain ynghyd â cheisio saethu ei hun.

Dywedodd Philippa: "Byddai hi yn cael y pyliau yma ac roedd hi yn beryg iddi hi ei hunan yn ogystal â phobl eraill, ond rhwng rheiny roedd hi yn hollol glir ei meddwl a ddim yn wallgo' mewn unrhyw ffordd."

Beibl Violet GibsonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Beibl Violet Gibson

Wrth i'r blynyddoedd rygnu ymlaen a hithau bellach mewn ysbyty meddwl yng nghanolbarth Lloegr, fe ymbiliodd am gael ei rhyddhau i ail-gydio yn ei bywyd.

"Roedd hi moyn byw gyda Chatholigion, a chael gofal gan leianod yn hytrach na gan Brotestaniaid ond am wahanol resymau wnaethon nhw ddim caniatáu hynny."

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n ysgrifennu llythyron dirifedi i'r Dywysoges Elizabeth a ddaeth yn ddiweddarach yn Frenhines, a hefyd yn uniongyrchol at Winston Churchill yn rhoi cynghorion ar sut i drechu ffasgiaeth, ond fe ddaliodd awdurdodau'r ysbyty eu gafael ar yr ohebiaeth, ac ni chawson nhw eu postio.

Bu farw Violet Gibson yn Ysbyty Meddwl St Andrews, Northampton, yn 1956. Roedd yn 79 oed.

Bellach mae Cyngor Dulyn wedi codi cofeb i Violet Gibson yn Sgwâr Merrion lle bu'n byw pan yn blentyn. Ond sut mae ei gor-nith yn edrych yn ôl ar fywyd ei modryb canrif ers y digwyddiad ar y stryd yn Rhufain?

"Dwi yn teimlo yn falch bod hi yn rhywun oedd â daliadau gwrth-ffasgaidd cryf iawn, iawn ac 'oedd hi yn barod i weithredu ar hynny ond yn bendant bydden i ddim yn argymell unrhyw drais gwleidyddol, dyw e ddim yn unrhyw fath o ddatrysiad.

"Mae llinell anhygoel gan Dic Jones, 'Ni all lladd ennill heddwch'."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig