Targedau llety gwyliau'n 'rhy uchelgeisiol' medd busnesau

Lluniau taiFfynhonnell y llun, Getty Images
GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dydy'r newidiadau mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud i reolau tai haf ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ôl rhai busnesau yng Ngwynedd.

Ers 2023, gall unrhyw lety gwyliau sydd heb eu gosod am 182 diwrnod o'r flwyddyn gael eu hystyried fel ail gartref, ac felly'n gorfod talu treth gyngor uwch.

Ond mae rhai perchnogion llety gwyliau'n dweud bod y targed yn "rhy uchelgeisiol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "llawer o weithredwyr wedi'u heithrio rhag y gyfradd premiwm" os oes cyfyngiad ar eu heiddo, ac o fis Ebrill 2027 ymlaen bydd gan eiddo sy'n cael eu trosglwyddo i'r dreth gyngor flwyddyn ar y gyfradd safonol cyn dod yn atebol am bremiwm.

Gwen Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwen Thomas yn cynnal tai gwyliau ac mae'n dweud bod yn "rhaid i mi fod yn llawn o Pasg tan ddiwedd mis Hydref"

Eleni bu rhaid i Gwen Thomas roi'r gorau i'w swydd fel asiant yn gosod tai gwyliau ym Mhorthmadog.

"Roedd hi'n anodd i bawb ar y busnes gyda'r tai oedden ni'n gosod i gael y 182 o ddyddiau. Fe benderfynon nhw slow bach i werthu neu symud i asiant arall.

"Yn y diwedd oedd ond gynnon ni tua 100 o dai felly doedd dim gwerth cynnal y busnes gyda chyn lleied o dai."

Erbyn hyn mae'n parhau i osod pedwar o lety gwyliau ei hun, ond yn gweld llenwi'r 182 o ddiwrnodau'n heriol.

"Mae'n rhaid i mi fod yn llawn o Pasg tan ddiwedd mis Hydref. Mae hynny'n golygu os bod gennai unrhyw un yn canslo allai ddim cyfri' nhw felly mae'n rhaid i mi drio cael pobl i ddod drwy'r gaeaf, a go brin mae pobl yn mynd i ddod yma.

"Sa'm byd i denu pobl i ddod yma," ychwanegodd.

"Mi ga'i rhyw gwpl yn dod yma eisiau cerdded eu ci ar Black Rocks, ond dydyn nhw ddim yn mynd i dalu llawer. Dwi'n cystadlu yn erbyn pobl fel Premier Inn a Travel Lodge.

"Dwi'n teimlo bod rhaid i mi gymryd nhw just rhag ofn i mi beidio cael y 182. Achos os dwi ddim yn cael o dwi'n colli'r fraint o fod ar business rates ac mi fasa rhaid i mi dalu un gwaith a hanner treth y council tax ac mi fasa hwnna tua £4,000. Mae'n ormod o risg."

'Mae'n costio llnau, dillad gwely, ynni'

Roedd y rheol 182 diwrnod yn rhan o ddeddfwriaeth a gynlluniwyd i gryfhau mesurau sy'n ceisio mynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy mewn rhannau o Gymru sy'n boblogaidd gyda thwristiaid a pherchnogion ail gartrefi.

Yn dilyn ymgynghoriad fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru newidiadau i'r ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys defnyddio cyfartaledd o ddyddiau dros fwy nag un flwyddyn, a'r opsiwn i roi hyd at 14 o ddyddiau i elusen.

Ond yn ôl Gwen dydy'r newidiadau yn fawr o gysur.

"Mae'n dda eu bod nhw'n meddwl am y pethau yma ond o'n ochr i dydw i ddim yn gosod i elusennau rhagor. Dwi'n cael dim, mae'n costio llnau, dillad gwely, ynni."

Owain MeirionFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid mynd i'r afael â'r gormodedd o ail dai, meddai Owain Meirion

Yn ôl Owain Meirion, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae'n bwysig bod deddfwriaeth sy'n effeithio'r iaith Gymraeg mewn cymunedau yn cael ei "monitro" o hyd.

"Ni'n gwybod bod gormodedd o ail dai mewn cymunedau Cymraeg yn fygythiad i ddyfodol yr iaith.

"Maen nhw'n gystadleuaeth i bobl sy'n trio prynu tai am y tro cyntaf, i bobl ifanc neu deuluoedd felly mae mynd i'r afael â'r gormodedd yna'n gwbl allweddol."

Ond dadlau mae Gwen Thomas nad yw'r rheol 182 yn datrys y broblem o dai fforddiadwy.

Dywedodd: "Mae'r bobl dwi'n nabod sydd wedi penderfynu gwerthu, dydy'r bobl leol dal ddim yn gallu fforddio prynu nhw.

"Sgynno ni ddim diwydiant fan hyn, tydyn nhw ddim yn gallu fforddio morgeisi mawr."

'Fel cynnig cot law mewn corwynt'

Mae Gwion Llwyd yn berchen busnes hunan arlwyo yng Ngwynedd ac mae'n galw am ostwng y nifer o ddyddiau gosod i 105.

"Mae'r [newidiadau i'r ddeddfwriaeth] fel cynnig cot law mewn corwynt. Da ni'n hapus i dderbyn o ond mae ond yn mynd i helpu ychydig iawn.

"Mae'n rhaid newid y targed mae'n rhy uchelgeisiol a'n cosbi pobl pan maen nhw'n cael blwyddyn sâl."

Byddai hefyd yn hoffi gweld cyfnod gras o ddwy flynedd i fusnesau.

"Roedd un o'n perchnogion ni wedi cael marwolaeth yn y teulu ac wedi cau'r bwthyn am gyfnod. Dwi ddim yn teimlo dylai'r teulu yna gael eu cosbi.

"Mae egwyddor y peth yn wrong, byddech chi ddim yn cosbi ffarmwr os oedd o wedi cael un flwyddyn sâl."

Dywedodd Llafur Cymru: "Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad at gartref gweddus, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol.

"Rydym yn defnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion."

Yn ôl Reform "mae'r rheol 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau wedi achosi niwed difrifol i weithredwyr bach, ymddeolwyr, a busnesau teuluol".

"Byddwn yn gostwng y trothwy mewn ymgynghoriad â'r diwydiant fel nad yw llety gwyliau dilys yn cael ei yrru allan o'r farchnad."

Dywedodd Plaid Cymru fod "rhaid ystyried a gwerthuso effaith ehangach y rheol ar drigolion a busnesau yn ofalus er mwyn osgoi neu liniaru canlyniadau anfwriadol ac rydym wedi dadlau y dylid cyflwyno eithriadau, er enghraifft ar gyfer busnesau fferm".

"Blaenoriaeth Plaid Cymru yw darparu mwy o gartrefi fforddiadwy i bobl leol."

Dweud mae'r Ceidwadwyr Cymreig bod y rheol wedi "achosi cryn bryder ar draws y sector twristiaeth".

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei gwneud hi'n glir bod y trothwy 182 diwrnod presennol yn rhy uchel, ac y byddai trothwy sy'n agosach at 105 noson yn cynrychioli gofyniad mwy cymesur a realistig i lawer o ddarparwyr."

Mae'r Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.