Galw am oedi cynlluniau i ehangu Carchar y Parc er lles diogelwch

Carchar y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carchar y Parc wedi bod dan y lach am fethiannau honedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf

GanIolo Cheung
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dylai cynlluniau i ehangu maint Carchar y Parc gael eu hatal am y tro tan bod gwelliannau'n cael eu gwneud i ddiogelwch yno.

Dyna'r neges gan grŵp o Aelodau Seneddol yn dilyn adroddiad sy'n ystyried dyfodol y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr – yr un mwyaf yn ne Cymru.

Dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig y byddai ehangu'r carchar yn tynnu sylw oddi wrth "y gwelliannau sy'n cael eu gwneud" ers i 17 o garcharorion farw yno yn 2024.

Yn ôl llefarydd ar ran Carchar Parc, mae "cynnydd... wedi cael ei wneud mewn sawl maes, yn enwedig wrth darfu ar y cyflenwad cyffuriau".

Carchar Y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carchar y Parc bron yn llawn yn ôl y ffigyrau diweddaraf

Ar hyn o bryd mae gan Garchar y Parc le i 1,849 o garcharorion, ac yn ôl y ffigyrau diweddaraf o fis Chwefror eleni, mae bron yn hollol llawn.

Llynedd cafodd caniatâd cynllunio ei roi i ymestyn y carchar er mwyn gwneud lle ar gyfer 345 o garcharorion ychwanegol, a 160 yn rhagor o staff, fel rhan o Strategaeth Capasiti Carchardai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond mae Carchar y Parc, sydd yng nghategori B/C, wedi bod dan y lach am fethiannau honedig dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ynghylch diogelwch carcharorion a phroblemau cyffuriau.

Bu farw 17 o garcharorion yn 2024, y nifer uchaf mewn unrhyw garchar yng Nghymru a Lloegr y flwyddyn honno – naw o achosion naturiol, pump o ganlyniad i gyffuriau, a thri drwy hunanladdiad.

Cyfartaledd y marwolaethau blynyddol yng Ngharchar Parc yn y 10 mlynedd cyn hynny oedd chwech.

Angen sicrhau 'diogelwch staff a charcharorion'

Fe wnaeth archwiliad ym mis Ionawr 2025 gan yr arolygydd carchardai hefyd ganfod problemau eraill yno, gan gynnwys lefelau uchel o drais, defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, a hunan-niweidio.

Roedd diffyg adnoddau hefyd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnydd sylweddau, meddai'r archwiliad, yn ogystal â lefelau staffio annigonol.

Fe wnaeth archwiliad arall eleni ganmol staff ac arweinyddiaeth y carchar, ond rhybuddio bod diffyg cynnydd wedi bod mewn dros hanner y meysydd o bryder.

Oherwydd hynny, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig nawr yn dweud bod angen oedi'r cynlluniau i ehangu Carchar y Parc, nes bod y llywodraeth wedi ystyried sut i wneud hynny heb beryglu diogelwch carcharorion a staff.

Er bod eu hadroddiad yn cydnabod yr angen am fwy o lefydd mewn carchardai ym Mhrydain, dywedodd y pwyllgor y byddai ehangu y carchar yn "tynnu sylw" oddi wrth y gwelliannau oedd yn digwydd yno ar hyn o bryd.

"Mae pob marwolaeth y gellir ei hatal yn drasiedi, ac mae'n hollbwysig felly bod gwella diogelwch a lles y dynion sy'n treulio dedfryd yn y carchar ar flaen meddwl unrhyw benderfyniadau gan reolwyr a'r llywodraeth," meddai cadeirydd y pwyllgor, Ruth Jones AS.

"Er bod rhai gwelliannau diogelwch wedi eu gwneud, a'n bod ni'n fodlon â'r arweinyddiaeth bresennol, byddai ehangu'r carchar nawr yn tynnu sylw diangen allai beryglu cynnydd, ac yn bwysicach, diogelwch carcharorion a staff."

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc fod yr adroddiad diweddaraf ym mis Chwefror eleni "wedi tanlinellu'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn sawl maes, yn enwedig wrth darfu ar y cyflenwad cyffuriau".

"Mae hyn yn bwysig ac yn helpu i sicrhau gwelliannau eraill yn y carchar, yn enwedig wrth leihau lefelau hunan-niweidio a thrais," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinidogaeth Gyfiawnder: "Rydym yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng carchardai gafodd ei etifeddu gan y lywodraeth hon – adeiladu 14,000 o lefydd ychwanegol mewn carchardai erbyn 2031, a diwygio dedfrydau i sicrhau y gallwn ni wastad roi troseddwyr peryglus dan glo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.