Dyn yn cyfaddef lladd tad 'caredig a thyner' y tu allan i dafarn

Mae teulu Marcus Carpenter wedi dweud mewn teyrnged ei fod yn "fab, partner a thad annwyl"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cyfaddef lladd tad "caredig a thyner" y tu allan i dafarn brysur yn ne Cymru.
Bu farw Marcus Carpenter, 37, yn yr ysbyty - bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddyrnu y tu allan i'r Picture House yng Nglynebwy, Blaenau Gwent.
Dechreuodd ffrwgwd y tu allan i'r dafarn rhwng 23:30 nos Wener, 20 Chwefror a 00:15 fore Sadwrn, 21 Chwefror ac mi gafodd Mr Carpenter ei anafu'n ddifrifol.
Fe wnaeth Kyle O'Callaghan, 30, ffoi o'r lleoliad ac mi gafodd apêl Crimestoppers gwerth £10,000 ei lansio am wybodaeth.
Lansiodd yr heddlu ymchwiliad llofruddiaeth wedi i Mr Carpenter farw ddyddiau'n ddiweddarach.
Cafodd O'Callaghan ei arestio a'i gyhuddo o ddynladdiad ynglŷn â'r farwolaeth.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener, gan bledio'n euog i ddynladdiad.
'Dedfryd sylweddol o garchar'
Dywedodd Peter Donnison, ar ran yr amddiffyn, fod y diffynnydd yn "derbyn ei ymddygiad ac wedi pledio'n euog i hynny".
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams fod camerâu CCTV o'r ymosodiad wedi dangos bod O'Callaghan wedi dyrnu Marcus ac wedi achosi ei farwolaeth.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 15 Mai a dywedodd y barnwr wrth O'Callaghan ei fod yn wynebu "dedfryd sylweddol o garchar".