Huw Aaron yn ennill gwobr llyfr plant y flwyddyn Waterstones

Cafodd dau o lyfrau plant Huw Aaron eu henwebu mewn dau gategori gwahanol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Huw Aaron wedi ennill gwobr llyfr plant y flwyddyn Waterstones.
Cafodd Sleep Tight Disgusting Blob ei enwi fel llyfr plant y flwyddyn, ar ôl cipio'r wobr yn y categori llyfrau wedi'u darlunio.
Yr awdur a chartwnydd oedd y person cyntaf erioed i gael ei enwebu am ddau o'r gwobrau llyfrau plant, gyda'i nofel graffeg Unfairies hefyd wedi'i enwebu yn y categori ar gyfer plant iau.
Mae'r ddau lyfr ar gael yn Gymraeg hefyd, sef Nos Da, Blob ac Y Tylwyth Annheg.
Dywedodd pennaeth llyfrau Waterstones, Bea Carvalho, fod Huw Aaron yn "storïwr a darlunydd o dalent syfrdanol" a bod Sleep Tight, Disgusting Blob "yn stori amser gwely sydd am fod yn glasur yn syth".

Cafodd Sleep Tight Disgusting Blob ei enwi fel llyfr plant y flwyddyn, ar ôl cipio'r wobr yn y categori llyfrau wedi'u darlunio
Daw Huw Aaron o Abertawe yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Ar ôl gweithio fer cyfrifydd, penderfynodd mai gyrfa mewn ysgrifennu ac arlunio oedd yn mynd â'i fryd yn hytrach na ffigyrau a chyfrifon.
Aeth ymlaen i weithio fel cartwnydd ar gyfer Private Eye, Prospect, The Spectator ac eraill, ac fe gyflwynodd raglen gelf wythnosol Cer i Greu ar S4C.
Bydd nawr yn ennill gwobr ariannol o £5,000 a bydd Sleep Tight, Disgusting Blob yn cael ei ddewis fel llyfr plant y mis gan Waterstones ar gyfer mis Ebrill.
Ychwanegodd Bea Carvalho fod ei lyfr yn "stori hyfryd o glyd sy'n rhoi tro annwyl ar bethau brawychus gyda swyn a chast cefnogol doniol a chiwt".

Mae Huw yn gweithio gyda gwasg Penguin erbyn hyn, gyda'i lyfrau Cymraeg wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa
Yn siarad ar ôl ei enwebiad fis diwethaf, dywedodd Huw ei fod "wastad yn hoffi arlunio a gwneud cartŵns a lluniau doniol, ond falle byth 'di ystyried hwnna fel gyrfa".
Mae Huw yn gweithio'n agos gyda gwasg Penguin erbyn hyn, gyda'i lyfrau Cymraeg wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa.
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn i wasg Y Lolfa am eu cefnogaeth a'u "hagosatrwydd", wrth iddo gymharu gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Yn y bôn dwi'n meddwl mae o'r un peth - dwi'n eistedd wrth fy nesg yn trio meddwl am syniadau ac wedyn arlunio nhw - felly ar un llaw mae'n debyg iawn," meddai.
"Ac wedyn mae'n wahanol hefyd. Mae agosatrwydd 'da chi'n cael ym myd cyhoeddi Cymru yn rhywbeth hyfryd - i ffonio rhywun lan a danfon syniadau a chael adborth yn syth.
"Yn y bôn, mae pobl sy'n caru llyfrau yn debyg ble bynnag y'ch chi.
"Mae'r bobl sydd yn y diwydiant, boed yng Nghymru neu tu hwnt, yn bobl sydd jysd yn caru darllen a charu llyfrau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
