'Steddfod yr Urdd ar steroids': Ffermwyr yn dathlu llwyddiant BGT

Aled Wyn Davies (canol yn y crys siec) ac Aled Griffiths (ar y chwith yn y rhes gefn) gefn llwyfan gyda gweddill aelodau'r Hawkstone Farmers, a chyflwynwyr BGT Ant & Dec (ar y dde)
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ffermwyr Cymru'n dathlu ar ôl i'w côr fynd yn syth i rownd gyn-derfynol Britain's Got Talent wedi i un o'r beirniaid wasgu'r botwm aur - y Golden Buzzer.
Roedd yr Hawkstone Farmers - gafodd ei sefydlu'n wreiddiol ar gyfer hysbyseb cwrw'r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson - yn cystadlu ar y teledu nos Sadwrn.
Ac ymysg y 32 o amaethwyr oedd ar y llwyfan roedd saith o Gymru - gan gynnwys cyn-enillydd y Rhuban Glas a chadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.
Fe wnaethon nhw gymaint o argraff bod y beirniad Amanda Holden wedi gwasgu'r botwm aur a'u gyrru'n yn syth i'r rownd gynderfynol heb iddyn nhw orfod cystadlu mewn rowndiau eraill.
Ffermwyr yn dathlu llwyddiant derbyn botwm aur BGT
Un o aelodau'r côr ydy Aled Griffiths o Gwmllinau, Powys, ffermwr sydd hefyd yn gweithio i undeb yr NFU ac sy'n gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.
"Un gair sydd i ddisgrifio'r holl brofiad - swreal ydy hwnna," meddai ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
"Roedda ni'n gwylio Britain's Got Talent weithiau ar nosweithiau Sadwrn, yn enwedig pan oedd y plant yn iau - roedden nhw'n mwynhau gweld yr amrywiaeth o adloniant oedd ar y rhaglen.
"A tasa rhywun wedi dweud wrtha i faswn i ar y rhaglen eleni faswn i ddim wedi coelio nhw deud gwir ond dyna ni mae'r pethe ma'n digwydd."
Un o'i gyd-aelodau ydy ei gyfaill Aled Wyn Davies, y tenor o Lanbrynmair.
"Dwi'n lwcus mod i wedi gwneud lot o ganu yn bersonol o'r blaen ond roedd hwn yn rhywbeth gwahanol - fel Steddfod yr Urdd ar steroids neu rywbeth," meddai ar Radio Wales.
"Roedd yn deimlad mor swreal - doedden ni ddim yn gwybod be' i'w ddisgwyl ond aeth o mor briliant. Roedd pobl ar eu traed pan wnaethon ni gerdded i mewn - roedd yn foment briliant wna i byth anghofio."

Roedd y tenor Aled Wyn Davies, sy'n gyn-enillydd y Rhuban Glas, yn un o'r saith o Gymru gyda chôr Hawkstone Farmers ar Britain's Got Talent
Sefydlwyd y côr flwyddyn yn ôl er mwyn canu mewn hysbyseb teledu ar gyfer cwrw wedi ei gynhyrchu gan Jeremy Clarkson. Mae'r cyflwynydd moduro bellach yn adnabyddus am gyfres deledu sy'n dilyn ei fywyd ar ei fferm.
Rhoddwyd hysbyseb am y prosiect cerddorol ar grŵp Facebook Côr Meibion Machynlleth ac fe gytunodd y ddau Aled - sy'n aelodau - i roi cynnig arni.
Ar ôl gyrru clip fideo ohonyn nhw'n canu roedden nhw ymysg y 35 allan o tua 600 gafodd eu dewis.

Cyflwynwyr a beirniaid Britain's Got Talent: (chwith i'r dde) Ant McPartlin, Amanda Holden, Alesha Dixon, Simon Cowell, KSI a Declan Donnelly
Yn dilyn ymateb ffafriol i'r Hawkstone Farmers ar y cyfryngau cymdeithasol, rhoddodd y côr gais i gystadlu ar Britain's Got Talent a chael eu derbyn.
Chwe mis yn ôl aethon nhw i Birminhgam i berfformio eu fersiwn nhw o One Day Like This gan y band Elbow.
"Mi ryda ni wedi gorfod cadw'r gyfrinach ers mis Hydref," meddai Aled Griffiths.
"Neshi ddim sylw ei bod hi [Amanda Holden] wedi gwagu'r botwm aur a dweud y gwir - o'n i'n edrych rownd y gynulleidfa - cynulleidfa fawr wrth gwrs."

Aled Griffiths (chwith), sy'n byw ar ei fferm deuluol ger Cwmlline, Dyffryn Dyfi, gefn llwyfan Britain's Got Talent gydag aelodau eraill Hawkstone Farmers
Mae disgwyl i'r rownd gynderfynol gael ei chynnal yn ystod mis Mai ac felly dim ond ychydig wythnosau sydd gan y côr i ddysgu cân newydd - sydd ddim yn hawdd efo'r aelodau yn byw ar draws Prydain.
Meddai Aled Wyn Davies: "Fyddwn ni'n cyfarfod mewn tua thair wythnos am gwpl o ddyddiau i ddysgu cân newydd ac wedyn mis Mai gobeithio fydd y rownd gynderfynol.
"Fyddwn ni'n mynd lawr i Lundain i'r rhaglen fyw - felly ychydig mwy o nerfau eto ond gobeithio bydd y cyhoedd a'r gymuned amaeth yn ein cefnogi a gobeithio wnaiff pawb bleidleisio i ni."
Mae'r ddau Aled yn adnabod ei gilydd ers blynyddoedd ond mae'r prosiect diweddaraf wedi arwain at wneud ffrindiau gydag amaethwyr o bob cwr o Brydain.
Meddai Aled Griffiths: "Be' sy'n rhyfeddol ydy'n bod ni i gyd yn cyd-dynnu. Mae un peth sy'n dod â ni ynghyd ac amaethyddiaeth ydy hwnnw.
"Mae gennyn ni un peth sy'n gyffredin ac mae'n amlwg pan yda ni'n cwrdd â'n gilydd. Mae rhyw gyfeillgarwch od wedi digwydd a dweud y gwir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021

- Cyhoeddwyd19 Mai 2018
