Menyw ag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad pedwar cerbyd

Neuadd Goffa Llys-faen ar Heol-y-Delyn, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Neuadd Goffa Llys-faen ar Heol-y-Delyn yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwr 78 oed yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn cynnwys pedwar cerbyd yng Nghaerdydd ddydd Gwener, yn ôl Heddlu De Cymru.

Cafodd cerddwr arall, menyw 76 oed, ei tharo hefyd ac mae hi wedi dioddef mân anafiadau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol-y-Delyn yn ardal Llys-faen tua 15:45 ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad oes unrhyw un wedi cael ei arestio ac mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig