Oes gan Wynedd le i ddysgu gan ogledd Yr Eidal ar dwristiaeth?

Mae'r adroddiad yn awgrymu bod sector twristiaeth Gwynedd yn tangyflawni o safbwynt economaidd, ac y gallai elwa o ardoll ymwelwyr
- Cyhoeddwyd
Gall Gwynedd ddysgu gwersi pwysig am sut mae arian twristiaeth yn cael ei reoli mewn rhannau o ogledd Yr Eidal, yn ôl ymchwil newydd.
Mae adroddiad gan Brifysgol Bangor yn awgrymu y gallai ardoll ymwelwyr helpu i gryfhau'r economi leol, cefnogi cymunedau, a gwella profiad ymwelwyr.
Y llynedd fe wnaeth y Senedd basio deddf sy'n rhoi'r grym i gynghorau godi treth ar bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru
Os yw awdurdodau lleol yn dewis cyflwyno hynny, bydd ymwelwyr yn talu £1.30 + TAW y noson mewn gwestai, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo, a 75c + TAW mewn hosteli a meysydd gwersylla, gyda rhai eithriadau.
Y gobaith gyda'r dreth yw y bydd yn helpu cefnogi cymunedau, a chynghorau unigol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am gyflwyno'r ardoll ai peidio.
Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno ardoll ymwelwyr - yr unig ardal hyd yma i wneud hynny.
Dywedodd Cyngor Gwynedd y "bydd penderfyniad yn cael ei wneud a ddylid ymgynghori ar sefydlu ardoll yng Ngwynedd yn ystod 2026".

Mae data'r ymchwil yn dangos bod ymwelwyr â Gwynedd yn gyffredinol yn barod i dalu ardoll gymedrol
Mae'r ymchwil gan Brifysgol Bangor yn dweud bod codi tâl o'r fath yn help i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy, gan sicrhau bod buddion ymwelwyr yn aros yn y cymunedau sy'n eu croesawu.
Mae ardal De Tyrol yn Yr Eidal yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o sut mae hyn yn gallu gweithio'n effeithiol, gyda refeniw twristiaeth yn cael ei gadw'n lleol a'i ailfuddsoddi mewn cyrchfannau a chymunedau.
Yn y rhanbarth hwnnw, mae penderfyniadau am wario'r arian sy'n cael ei godi yn cael eu gwneud ar lefel leol, gyda chymunedau a sefydliadau twristiaeth yn cydweithio ar brosiectau fel llwybrau cerdded, trafnidiaeth a digwyddiadau lleol.
Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod De Tyrol wedi llwyddo i gysylltu twristiaeth â'u hunaniaeth leol, gyda chymunedau sy'n siarad iaith leiafrifol Ladin yn cael llais yn y ffordd mae'r diwydiant yn cael ei reoli.
Mae'r awduron yn dweud bod hyn yn berthnasol iawn i Wynedd, lle mae'r Gymraeg a diwylliant lleol hefyd yn rhan allweddol o'r gymuned a'r hyn sy'n denu ymwelwyr.

Dywedodd perchennog Fferm Ty Cynan fod cyfathrebu clir yn allweddol os yw ardoll ymwelwyr yn cael ei chyflwyno yng Ngwynedd
Mae perchennog busnes gwersylla yng Ngwynedd yn dweud ei bod yn gefnogol o'r syniad o ardoll ymwelwyr, ond bod cyfathrebu clir yn allweddol os yw am lwyddo.
Dywedodd Laura Pozzi Evans o Fferm Ty Cynan ei bod wedi talu ardollau tebyg mewn gwledydd eraill ac nad yw'n gweld problem gyda'r egwyddor, cyn belled â bod y cynllun yn cael ei esbonio'n dda i ymwelwyr ac nad yw'n cael ei weld fel "cosb".
"Dwi ddim yn ei erbyn o o gwbl, ond mae'n dibynnu sut mae'n cael ei gyflwyno," meddai.
Ychwanegodd bod canfyddiadau pobl a'r ffordd mae'r cynllun yn cael ei farchnata yn gallu cael effaith uniongyrchol ar ymddygiad ymwelwyr.
Dywedodd hefyd fod angen sicrhau bod buddion yr ardoll yn weladwy yn lleol, er mwyn i bobl "allu gweld lle mae'r arian yn mynd" ac i ymwelwyr "deimlo ei fod yn werth chweil".
"Mae angen i'r ffocws fod ar bethau sydd er budd pobl leol a thwristiaid," meddai, gan ychwanegu y byddai cydweithio â chymunedau lleol yn hanfodol wrth benderfynu sut mae unrhyw arian yn cael ei ddefnyddio.

Mae De Tyrol yn Yr Eidal yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o sut mae refeniw twristiaeth yn cael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau
Yn ôl yr ymchwil, un o'r prif wersi i Wynedd yw'r angen i wella cydweithio rhwng gwahanol ardaloedd, yn hytrach na gweithio ar wahân.
Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd gwneud penderfyniadau am dwristiaeth yn agosach at gymunedau lleol, yn hytrach na'u canoli mewn un lle.
Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Dr Linda Osti fod De Tyrol yn dangos sut mae modd llwyddo pan fo cymunedau yn cael rhan uniongyrchol yn y ffordd mae twristiaeth yn cael ei rheoli a'i hariannu.
Yno, mae rhai prosiectau mawr yn cael eu hariannu ar lefel ranbarthol, tra bod prosiectau llai yn cael eu rheoli gan gymunedau.
Mae'r ymchwil yn dweud y gallai dull tebyg yng Ngwynedd helpu i leihau "darnio" (fragmentation) - lle mae marchnata a buddsoddi ar hyn o bryd yn anghyson rhwng ardaloedd gwahanol.
Mae hefyd yn awgrymu bod ymwelwyr yn aml yn barod i dalu ychydig yn ychwanegol os yw'r arian yn cael ei ddefnyddio i wella'r ardal maen nhw'n ymweld â hi.

Mae'r Gymraeg yng Ngwynedd a Ladin yn Ne Tyrol yn cael eu gweld fel rhan bwysig o'r hyn sy'n diffinio'r ardaloedd ac yn denu ymwelwyr, yn ôl Dr Rhys ap Gwilym
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un o awduron eraill yr adroddiad, Dr Rhys ap Gwilym, fod Gwynedd yn "hynod boblogaidd gyda thua wyth miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn", ond bod y sector yn tangyflawni'n economaidd.
Dywedodd fod De Tyrol yn debyg i Wynedd fel ardal wledig gyda phentrefi bach, lle mae twristiaeth yn gryf y tu hwnt i'r trefi mawr.
Ychwanegodd fod tebygrwydd hefyd o ran iaith, gyda Ladin yn Ne Tyrol yn chwarae rôl debyg i'r Gymraeg mewn cymunedau yng Ngwynedd, "fel iaith sy'n ffynnu yn y pentrefi lle mae twristiaeth ar ei chryfaf".
"Maen nhw wedi defnyddio twristiaeth i gryfhau diwylliant ac iaith, gan gadw pobl leol yn y cymunedau a chreu cyfleoedd gwaith da," meddai.
Mae'r adroddiad yn argymell system lle mae'r arian o'r ardoll yn cael ei neilltuo ar gyfer twristiaeth, a bod adrodd bob blwyddyn ar sut mae'r arian yn cael ei wario.

Mae parciau gwyliau, gwersylla a llety hunanarlwyo'n chwarae rhan allweddol yn economi ymwelwyr Gwynedd, yn ôl yr adroddiad
Dywedodd Cyngor Gwynedd nad ydyn nhw "wedi derbyn yr adroddiad yn ffurfiol nac wedi cael unrhyw ran yn ei gynhyrchu".
"Bydd penderfyniad yn cael ei wneud a ddylid ymgynghori ar sefydlu ardoll yng Ngwynedd yn ystod 2026," meddai llefarydd.
Y Senedd yn cymeradwyo treth £1.30 y noson ar dwristiaid
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2025
Portmeirion: Y pentref Eidalaidd eiconig yn dathlu canrif
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Cyngor Caerdydd i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn y ddinas
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
Dywedodd Llafur Cymru fod twristiaeth yn gwneud "cyfraniad mawr i economi Cymru", gan ychwanegu eu bod yn cefnogi'r egwyddor o "godi tâl bach" ar ymwelwyr er mwyn cefnogi cymunedau a gwasanaethau lleol.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi galw ers blynyddoedd am roi mwy o rym i gymunedau elwa o dwristiaeth, gan groesawu'r gallu i gyflwyno ardoll ac ailfuddsoddi'r arian yn y sector "a'r cymunedau sy'n eu cynnal".
Dywedodd Reform Cymru y byddai ardoll ymwelwyr "yn peryglu swyddi" mewn cymunedau, gan ychwanegu y bydden nhw'n "cael gwared ar dreth" ac yn "cefnogi'r diwydiant i barhau i ffynnu a darparu swyddi", pe bai'r blaid mewn grym.
Mae'r pleidiau gwleidyddol eraill wedi cael cais am sylw.