Cyngor Caerdydd i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn y ddinas

caerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Caerdydd yn cyflwyno ardoll ymwelwyr yn y ddinas - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Cafodd yr ardoll (levy) ei basio gan y cyngor llawn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ble roedd 62% o'r ymatebwyr wedi dangos cefnogaeth i'w gyflwyno, yn ôl y cyngor.

Daw'r cyhoeddiad wedi i ddeddfwriaeth Gymreig newydd gael ei phasio y llynedd, sy'n caniatáu i gynghorau godi tâl ar ymwelwyr dros nos o fis Ebrill 2027.

Mae cynlluniau tebyg eisoes yn bodoli mewn rhai dinasoedd yn y DU, ac mae codi tâl ar ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd.

Mae Manceinion a Lerpwl wedi cyflwyno cynlluniau o'r fath yn barod, gyda Chaeredin ac Aberdeen hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n gosod ardollau.

Beth fydd y ffi?

Bydd yr arian sy'n cael ei godi gan yr ardoll - amcangyfrif o £3.5m, yn cael ei dalu i Awdurdod Cyllid Cymru, fyddai yn ei dro yn ei dalu i awdurdodau lleol.

Mae'r ardoll yn berthnasol i unrhyw un sy'n talu i aros dros nos am lai na 31 noson, mewn llefydd fel gwestai, hostelau, llety gwyliau ac Airbnb, gwersylloedd a llety digwyddiadau dros dro.

£1.30 y pen y noson fydd y gost ar gyfer y mwyafrif o arosiadau, tra byddai'n gostwng i 75c ar gyfer gwersylloedd ac ystafelloedd sy'n cael eu rhannu, fel hosteli.

Bydd rhai ymwelwyr yn cael eu heithrio, gan gynnwys plant dan 18 oed sy'n aros mewn gwersylloedd neu ystafelloedd sy'n cael eu rhannu, pobl sy'n aros am fwy na 31 noson mewn un archeb, a phobl mewn llety brys neu dros dro sydd wedi'i drefnu gan y cyngor.

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas wedi dweud na fyddai'r ardoll yn cael ei defnyddio i "lenwi bylchau" mewn rhannau eraill o gyllideb y ddinas.

Dywedodd y bydd yn cael ei wario ar gostau sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau mawr fel cyngherddau Oasis y llynedd.

Mae'r cyngor yn dweud y bydd yn gweithio gyda busnesau twristiaeth i lywio sut i ddefnyddio'r ardoll i dyfu economi ymwelwyr yn y ddinas, creu swyddi a chefnogi busnesau lleol.

Dywedodd aelod cabinet y cyngor dros fuddsoddi a datblygu, y cynghorydd Russell Goodway: "Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr arfaethedig yn ddefnyddiol iawn, gan eu bod yn nodi'n glir yr hyn y mae busnesau a thrigolion eisiau i ni ganolbwyntio arno.

"Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Caerdydd ac UKHospitality bellach wedi cael ei gytuno a'i lofnodi, a bydd Fforwm Partneriaeth Ardoll Ymwelwyr yn cael ei sefydlu i gynghori ar sut mae'r arian yn cael ei ddefnyddio ac i helpu i lunio strategaeth dwristiaeth Caerdydd.

"Byddai'r incwm hwn yn ychwanegu at y gwasanaethau a'r hyrwyddiadau y gallwn eu darparu, gan wella'r profiad i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.

"Mae'r tâl, sydd wedi'i nodi mewn deddfwriaeth, yn sylweddol is na'r tâl nodweddiadol a welir ledled Ewrop."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.