Dyn yn pledio'n euog i gadw arfau mewn tŷ yn Abergwynfi

Commercial Street Abergwynfi wedi ei gau gyda thâp yr heddlu ym mis Chwefror 2026Ffynhonnell y llun, Tasha Anne Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Commercial yn Abergwynfi ar nos Sul 14 Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 51 oed o Gastell-nedd Port Talbot wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o fod ag arfau anghyfreithlon yn ei feddiant, ar ôl i "nifer sylweddol" o arfau gael eu darganfod mewn tŷ yn Abergwynfi ym mis Chwefror.

Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi ar Stryd Commercial am gyfnod ar 14 Chwefror ar ôl i'r heddlu gael eu galw i dŷ yno.

Cafodd Maximin Carter ei arestio'n wreiddiol ar amheuaeth o geisio gwneud ffrwydryn gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo.

Yn Llys y Goron Abertawe, pleidiodd yn euog i gyhuddiad o fod â gwn aer yn ei feddiant, sydd wedi ei wahardd o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968.

Plediodd yn euog hefyd i chwe chyhuddiad arall o fod ag arfau yn ei feddiant, yn cynnwys cleddyf samurai, haearn dwrn (knuckle duster) a phedwar pastwn telesgopig.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd fod pobl leol wedi eu symud o'u cartrefi am resymau diogelwch, gan ddiolch iddyn nhw am eu dealltwriaeth a'u hamynedd.

Cafodd Carter ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 7 Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.