Dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pwllheli

Bu farw dyn 20 oed yn fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A499
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pwllheli.
Cafodd Heddlu'r Gogledd a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i wrthdrawiad ar yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr, toc wedi 22:00 nos Sadwrn wedi adroddiadau bod sawl cerbyd, gan gynnwys Ford Fiesta du ac Audi A3 coch, wedi gwrthdaro.
Fe gafodd pedwar ambiwlans eu hanfon i'r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion y parafeddygon bu farw gyrrwr y Ford Fiesta - dyn 20 oed - yn y fan a'r lle.
Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ac un person ei gludo mewn ambiwlans.
Mae teulu'r dyn fu farw wedi cael gwybod, yn ogystal â'r crwner, yn ôl yr heddlu.

Cafodd tri pherson eu cludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad ar yr A499
Dywedodd Sarjant Duncan Logan o'r uned ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol: "Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a stopiodd i helpu a chefnogi'r gwasanaethau brys.
"Rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio neu'n cerdded yn y cyffiniau ac sydd â lluniau o'i ffôn symudol neu dash cam, i gysylltu cyn gynted â phosibl."
Galw am welliannau diogelwch
Yn dilyn y gwrthdrawiad, mae cynghorydd wedi galw ar yr awdurdod lleol i wneud gwelliannau diogelwch ar yr A499.
Dywedodd y cynghorydd Richard Glyn Roberts, sy'n cynrychioli ward Abererch, fod "tristwch mawr" yn lleol, ond nad oedd clywed y newyddion yn sioc.
Mae'n dweud fod y gwrthdrawiad dros y penwythnos yn brawf o'r angen am newidiadau.
"Mae pobl leol wedi bod yn sôn am y perygl ar y safle yna," meddai.
"[Mae 'na] angen am linellau gwynion, cyfyngiadau cyflymder a mwy o fesurau i reoli'r traffig.
"Dwi wedi codi'r pryderon yma ac mae'r cyngor cymuned wedi codi pryderon... arafwch sydd 'na i ymateb.
"Fydd hi ddim yn gysur i'r dioddefwyr ar ôl y ddamwain yma y bydd o bosib symud i 'neud rhywbeth yn rhy hwyr.
"Ond mi fasa'n dda symud i 'neud rhywbeth rŵan rhag i hyn ddigwydd eto."

Mae'r cynghorydd Richard Glyn Roberts yn galw am welliannau diogelwch ar yr A499
Wrth ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn".
"[Rydym] yn estyn ein cydymdeimlad i deulu'r person a fu farw," meddai llefarydd.
"Fel yn achos pob damwain angheuol, byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu ac yn ystyried os oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd yn seiliedig ar gasgliadau'r ymchwiliad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.