Dringo'r Wyddfa naw gwaith ar gyfer grŵp iechyd meddwl dynion

Nod y 10 sy'n cymryd rhan yn yr her yw codi arian ar gyfer grŵp MenTribe
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o ddynion yn dringo'r Wyddfa naw gwaith dros 48 awr i godi arian ar gyfer grŵp cymunedol yn y gogledd-orllewin sy'n cefnogi dynion gyda'u hiechyd meddwl.
Yn dechrau fore Gwener, mae'r 10 dyn sy'n cymryd rhan yn y sialens Yr Wyddfa 9 yn bwriadu defnyddio llwybr Llanberis ar bob taith i gopa uchaf Cymru.
Pwrpas y sialens yw codi arian ar gyfer MenTribe - grŵp cymunedol sy'n cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored fel teithiau cerdded a sesiynau lles i ddynion ar draws Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Y nod yw creu awyrgylch ddiogel sy'n galluogi'r dynion i rannu unrhyw sialensiau maen nhw'n eu hwynebu neu sydd wedi cael effaith arnyn nhw yn y gorffennol.
'Cyfle i bobl agor fyny'
Mae Sion Williams o Gaernarfon yn un o'r 10 sy'n dringo'r Wyddfa naw gwaith dros y penwythnos.
Mae'n aelod o grŵp MenTribe ac yn rhedeg un o'r grwpiau sy'n benodol ar gyfer cyn-filwyr.
"Dwi'n gwybod fy hun does dim llawer o bethau fel 'ma o gwmpas yr ardal yma, yn enwedig grwpiau awyr agored ble gallan nhw fynd allan a jyst cyfarfod pobl newydd a siarad cymaint â ma' nhw isho," meddai ar Dros Frecwast cyn dechrau'r her.
Cafodd y grŵp ei sefydlu gan dri chyn-filwr o Fangor ar ôl iddyn nhw rannu eu profiadau o'r heriau wrth geisio dychwelyd i fywyd arferol ar ôl bod yn rhan o'r fyddin.
Ers hynny mae'r grŵp wedi tyfu, a dros y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth tua 800 o ddynion gymryd rhan yn eu gweithgareddau, sy'n cynnwys cerdded yn y mynyddoedd.
"'Da ni 'di sylwi bod hogia'n tueddu i siarad lot mwy pan maen nhw'n mynd trwy rywbeth caled efo'i gilydd fel cerdded mynydd," meddai Sion.
"Mae'n rhoi cyfle iddyn nhw agor fyny a rhannu efo'i gilydd, neu i bobl sydd ddim isio gwneud hynny mae'n gyfle i fod 'rownd pobl eraill sydd 'fallai yn deall be' 'da chi'n mynd trwy."

Mae'r dynion yn defnyddio Llwybr Llanberis i ddringo'r Wyddfa - y llwybr prysuraf i'r copa
Gyda chopa'r Wyddfa'n sefyll 1,085m uwchben lefel y môr, penderfynodd y grŵp ddringo'r mynydd naw gwaith er mwyn cymharu ag uchder Everest, sef mynydd uchaf y byd - 8,848m.
"Mae'n mynd i fod yn her a 'da ni gyd wedi bod yn ymarfer ers rhyw dri, bedwar mis ar gyfer," meddai Sion.
"Mae gennym ni griw da yn cerdded ac mae yna hogia ar waelod y mynydd sydd efo dŵr, dillad sych ac ati i'n helpu ni.
"Mae hyd yn oed cwmni lleol wedi dod â fan bwyd draw er mwyn paratoi bwyd i ni rhwng pob taith."
Nod y daith yw codi arian ar gyfer y grŵp, sy'n cynnig eu holl weithgareddau am ddim.
"Mae'r ymateb i'r sialens yma wedi bod yn wych," meddai Sion.
"'Da ni wedi codi dros £3,000 fyny at rŵan ac mae mwy yn dal i ddod mewn sy'n brilliant.
"Gobeithio bydd hyn yn helpu ni gynnig mwy eto a chyrraedd mwy o bobl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill

- Cyhoeddwyd9 Ebrill
