Ffenestr goffa liw i gofio hanes llong HMS Conway ym Môn

Cafodd y ffenestr liw newydd ei dadorchuddio yn Eglwys Llanedwen ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Cafodd ffenestr wydr liw newydd ei dadorchuddio mewn eglwys ym Môn ddydd Sadwrn i goffáu'r llong hyfforddi HMS Conway.
Cafodd seremoni ei chynnal i gysegru'r ffenestr newydd yn Eglwys Llanedwen ger Llanfairpwllgwyngyll.
Yn ôl y Parchedig Llywelyn Moules-Jones, "mi faswn yn annog unrhyw un...dewch draw i'w gweld hi, mae hi werth ei gweld".
Mae'r gofeb newydd yn rhan o gyfres o gofebion sy'n nodi'r cysylltiadau hanesyddol sydd rhwng y llong nodedig a'r gymuned leol.
'Mae'n hardd ac yn cymryd ei lle yn iawn'
Roedd HMS Conway wedi'i hangori yng Nglyn Garth, oddi ar bier Bangor, am gyfnod, ac yna ger Plas Newydd ar Ynys Môn.
Roedd yn cael ei defnyddio fel lleoliad i hyfforddi cadetiaid.
Am flynyddoedd, roedd nifer o'r cadetiaid hynny yn mynychu gwasanaethau yn Eglwys Llanedwen.
Bu HMS Conway yn llong hyfforddi o 1859 tan 1974, gan hyfforddi dros 11,000 o fechgyn rhwng 13 a 18 oed ar gyfer gyrfaoedd fel swyddogion yn y Llynges Frenhinol a'r Llynges Fasnachol.
Mae Dewi Lewis Jones o Landegfan yn un o'r rhai oedd yn hyfforddi ar y llong.
Dywedodd, "'Dw i'n cofio edrych drwy'r ffenestr yn dair oed a gweld y cadets yn rhedeg heibio'r tŷ yn Llandegfan...doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i yn mynd i neud, a dyma fi'n cofio am y Conway.
"Mi nes i dreulio dwy flynedd ar y Conway o 1961 i 1963 ac yna mynd ar y môr am ddeg mlynedd."

Er yn gyfnod heriol, dywedodd Dewi Lewis Jones fod ei gyfnod ar HMS Conway yn bleserus
Soniodd fod y cyfnod yn heriol, ond ei fod yn mwynhau.
"Mi oedd hi'n reit tough - roedd 'na ddipyn o bwyslais ar redeg o gwmpas - doeddech chi ddim yn cael cerdded i le'n byd, roeddech chi'n gorfod rhedeg.
"Mi oeddan ni'n naturiol yn cael gwersi...ryw chwe pwnc o beth 'dw i'n gofio - dipyn o ymarfer a dysgu sut i hwylio llongau, a rhwyfo a mwynhau.
Dywedodd fod y ffenestr newydd yn "lliwgar iawn".
"'Dw i'n byw ddigon agos i ddod nôl i'w gweld hi fory neu drennydd i'w gweld hi'n iawn.
"Mae'n hardd ac mae'n cymryd ei lle yn iawn yn Llanedwen.
"'Da ni'n gobeithio y caiff hi lonydd - 'dw i'n meddwl bod hi'n bwysig cadw cysylltiad gydag Eglwys Llanedwen.
"Mae'r cysylltiad wedi bod yn gryf am flynyddoedd. Yn anffodus, mae rhan fwyaf o'r cadets yn ein gadael ni, lleihau mae'r niferoedd, ond mae'r cysylltiad yn hollol bwysig".
Er mwyn nodi'r cysylltiad â'r ardal leol a'r eglwys gyfagos, cafodd y ffenestr liw newydd ei dadorchuddio ddydd Sadwrn.
Cafodd ei dylunio a'i chreu gan yr artist gwydr Jayne Ford.
Mae'n cynnwys tri phanel, gyda delwedd ganolog o HMS Conway a'r paneli ochr yn dangos gwylanod o amgylch mastiau'r llong.
Mae'r gwylanod yn draddodiad ac yn symbol ymysg y cadetiaid i gofio am y rhai a fu farw.

Cafodd y ffenestr ei dylunio a'i chreu gan yr artist gwydr Jayne Ford
Mae'r ffenestr newydd wedi'i hariannu gan Gyfeillion HMS Conway a chyn-gadetiaid.
Mae ffenestri coffa tebyg eisoes wedi eu gosod ym Mhenbedw, Pier Bangor ac ym Mhlas Newydd, pob un yn lleoliadau sy'n gysylltiedig â hanes y llong.
Daeth degau o bobl ynghyd ar gyfer y dadorchuddio a'r gwasanaeth arbennig ddydd Sadwrn.
Yn eu plith oedd y Parchedig Llywelyn Moules-Jones sy'n Ddeon bro ym Môn a Chaplan i'r Brenin.
Esboniodd fod y gwasanaeth yn un "arbennig iawn, iawn".
"Dathliad a d'eud y gwir, lle mae'r cyn-forwyr o HMS Conway wedi rhoddi i ni ffenestr liw digon o ryfeddod yn dangos y llong ei hun a hefyd wrth gwrs y gwylanod sydd yn hynod bwysig iddyn nhw.

Mae'r Parchedig Llywelyn Moules-Jones yn Ddeon Bro ar Ynys Môn
Dywedodd fod cadetiaid yn arfer gorymdeithio "o Blas Newydd ar hyd y ffordd fawr, sydd ryw ddwy filltir" er mwyn mynychu'r gwasanaeth yn yr Eglwys.
"Y Marcwis ei hun, y chweched mae'n debyg, ddaru roi caniatâd iddyn nhw".
"Mae'r Eglwys hon ar agor drwy'r flwyddyn 24 awr y dydd, felly mi faswn yn annog unrhyw un...dewch draw i'w gweld hi, mae hi werth ei gweld".
Mae'r dadorchuddio yn Eglwys Llanedwen yn nodi'r gofeb ddiweddaraf mewn cyfres o gofebion sy'n cydnabod cysylltiadau hanesyddol y llong â'r Fenai a'r cymunedau cyfagos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2023

- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
