'Penwythnos hanesyddol' i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd yn Stadiwm Principality

Harri EvansFfynhonnell y llun, Paul Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri Evans yn dweud bod chwarae yn Stadiwm y Principality wedi bod yn freuddwyd iddo ers ei blentyndod

GanOwain Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd hi'n benwythnos hanesyddol i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd y penwythnos yma wrth i dîm y merched a'r dynion chwarae mewn rowndiau terfynol yn Stadiwm Principality.

Am y pedwerydd tro yn olynol, bydd merched Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn cystadlu yn y rownd derfynol, ac yn union fel y llynedd, Clwb Rygbi Blaendulais fydd eu gwrthwynebwyr.

Fe fydd tîm y dynion yn cystadlu ddydd Sul a dywedodd y blaenwr, Harri Evans nad oedd erioed wedi chwarae "yn Stadiwm Principality o'r blaen - mae e wedi bod yn freuddwyd ers i mi fod yn blentyn".

"Dwi wedi bod yn meddwl amdano bob dydd - mae e'n adeg cyffrous iawn."

Merched Clwb Rygbi Cymry CaerdyddFfynhonnell y llun, Sportphotowales
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm y merched wedi cyrraedd y rownd derfynol am y bedwaredd flwyddyn yn olynol

Eleni mae tîm y merched yn dathlu deg mlynedd, gyda'r prif hyfforddwr Nia Jones yn barod am gêm gystadleuol.

Ychwanegodd fod yr achlysur yn parhau'n arbennig bob tro y maen nhw'n chwarae yn Stadiwm Principality.

"Hyd yn oed y pedwerydd tro, mae e dal mor gyffrous ac mor arbennig â'r tro cyntaf," meddai.

Mae capten y merched, Alaw Hughes, yn dweud bod y tîm yn edrych ymlaen at yr her.

"Mae'r cyffro yno ond mae'r nerfau hefyd – ond y peth pwysicaf yw ein bod ni'n chwarae fel un tîm," meddai.

Eurof JamesFfynhonnell y llun, Leah Merched CRCC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, Eurof James, fod y penwythnos yn foment arbennig yn hanes y clwb

Ddydd Sul, tro'r dynion fydd hi i chwarae ar y cae rhyngwladol yn Rownd Derfynol Cwpan Adran 2 Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf ers 2014.

Mae hi wedi bod yn dymor llwyddiannus i'r clwb, gyda dyrchafiad eisoes wedi'i sicrhau, a dim ond un golled y tymor hwn gan y dynion a'u gwrthwynebwyr, Clwb Rygbi Cwins Aberafan, yn y gynghrair.

Dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, Eurof James, fod y penwythnos yn foment arbennig yn hanes y clwb.

"Mae hi'n benllanw bendigedig i ni fel clwb," meddai.

"Deg mlynedd ers i'r merched sefydlu, a chyrraedd y ffeinal am y bedwaredd flwyddyn yn olynol - mae hynny'n wych."

Ychwanegodd fod dyrchafiad y dynion a'r cyfle i chwarae yn y stadiwm genedlaethol yn gwneud y tymor yn un arbennig.

"Mae'n dod â ni at ein gilydd fel un clwb, ac mae'r ieuenctid yn ymfalchïo yn ein llwyddiannau ni - byddan nhw yno yn eu cannoedd i'n cefnogi."

Mae gan y clwb dros 400 o aelodau, o dimau dan 6 oed hyd at y garfan ieuenctid, yn ogystal â thimau merched iau, gyda'r pwyslais ar chwarae a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar y dechrau, nod y clwb oedd rhoi cyfle i ddynion ifanc o Gaerdydd a'r rhai oedd yn symud i'r ddinas chwarae rygbi yn Gymraeg – ac mae'r ethos hwnnw'n parhau heddiw.

Dywedodd Harri Evans, sydd wedi bod gyda'r clwb ers bron i ddegawd, fod ysbryd y clwb yn unigryw.

"Mae e'n glwb arbennig – fydden ni methu dychmygu gwneud hyn hefo unrhyw glwb arall," meddai.

"Does dim clwb tebyg yng Nghymru – mae pawb yn dod o bob cornel o'r wlad ac yn gweithio fel un tîm."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig