Gwyliwr trenau ifanc o Wynedd yn galw am help i agor siop

Ers dechrau'r flwyddyn mae Cynan wedi bod yn brysur yn trefnu ei sioe fodelau gyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed o Benrhyndeudraeth sy'n caru trenau a modelau rheilffyrdd yn galw am help i agor siop "rheilffyrdd bach" yn yr ardal.
Yn ôl Cynan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, mae wedi cael "llond bol" o orfod teithio milltiroedd i brynu offer neu ddibynnu ar siopa ar-lein.
"Mae yna reilffyrdd yn yr ardal ond does 'na ddim siop i'r rheilffyrdd," meddai.
"Dwi isio trio cael y gefnogaeth i agor siop modelau sy'n gwerthu bob un maint, achos 'sgeno ni ddim un o'r rheiny yn yr ardal yma yn anffodus."

"Mae yna reilffyrdd yn yr ardal ond does 'na ddim siop i'r rheilffyrdd," meddai Cynan
Er mwyn codi ymwybyddiaeth, ers dechrau'r flwyddyn mae Cynan wedi bod yn brysur yn trefnu ei sioe fodelau gyntaf.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal y penwythnos diwethaf yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth, gan ddenu degau o gefnogwyr ac arddangoswyr o Gymru a thu hwnt.
Trefnodd Cynan y cwbl ei hun drwy gysylltu â phobl dros y cyfryngau cymdeithasol.
"O''dd gyno fi chwe rheilffordd yn dod i gychwyn, a wedyn 'nes i weld rheilffyrdd er'ill o'n i meddwl oedd yn cŵl, a 'nes i ofyn os o'dda nhw'n medru dod, ac o'n i'n llenwi forms iddyn nhw a petha' fel 'na," dywedodd Cynan.
'Pwyntiwch nhw ata i!'
Gobaith Cynan ydi annog rhywun i agor siop arbenigol yn lleol "'neith roi pres i mewn i'r ardal a phres i'r industry hefyd".
"Ella fydd rhywun yn meddwl am y syniad 'ma o agor siop fel syniad da," meddai, gan ychwanegu: "Os oes gan rywun ddiddordeb pwyntiwch nhw ata i!"
Mae Cynan hefyd yn casglu arian trwy werthu paneidiau a raffl er mwyn cefnogi cronfa adfer eglwys y plwyf.
"Dwi'n meddwl ei fod o wedi neud yn ofnadwy o dda," meddai Wendy Jones o Bermo - un o'r ymwelwyr.
"Chwarae teg i hogyn bach 13 oed wedi trefnu hyn i gyd ei hun."

"Tomos y Tanc oedd bob dim pryd oedd o'n fach, ac fel mae o wedi mynd yn hŷn mae'r diddordeb wedi tyfu," meddai mam Cynan, Fiona
Roedd yr arddangosfeydd yn cynnwys modelau bach o Croesor South, Gwyndy Bank, Nantmor Bach, MOD Sutton Craddock, Golygfa Fws, Llanfaethlu, Hubibubihansenpfefferkatzenellenbogen an der See, a chynllun Triang-Hornby o 1967.
Dywedodd Ellis Griffiths o Fethel ger Caernarfon - un o'r arddangoswyr, -fod gwaith trefnu Cynan yn "impressive iawn".
"Does 'na ddim lot o bobl ifanc i mewn i hyn. Dwi heb ddod ar draws neb sydd actually wedi trefnu wbath fel yma. Mae o wedi 'neud yn dda iawn."
'Fasa'n helpu cael siop ar y stepan drws'
Mae Cynan hefyd yn rhedeg ei sianel YouTube ei hun - UK Rail Channel - lle mae'n rhannu ei ddiddordeb mewn rheilffyrdd gan gynnwys fideos o drenau yn cyrraedd gorsafoedd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae gan y sianel dros 1,000 o danysgrifwyr.
Yn ôl ei fam, Fiona, mae diddordeb Cynan mewn trenau wedi bod yn amlwg ers yn ifanc.
"Tomos y Tanc oedd bob dim pryd oedd o'n fach, ac fel mae o wedi mynd yn hŷn mae'r diddordeb wedi tyfu," meddai.
Mae Fiona a'i gŵr yn teithio pellteroedd mawr i fynd â Cynan i weld trenau o bob math, ac yn ei helpu i greu'r modelau.
Dywedodd fod Cynan yn gobeithio y bydd rhywun y gwrando ar ei alwad ac yn penderfynu agor siop yn yr ardal.
"Pryd 'da ni'n chwilio am bethau ar gyfer y modelau 'da ni'n gorfod mynd ar-lein neu trafeilio yn bell i ffeindio petha'. Os fasa 'na siop ar y stepan drws fasa yn helpu.
"'Sa fo wrth ei fodd, 'sa fo yna o hyd ma'n siŵr, 'sa fo isio helpu hefyd - dim jyst gwario!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.