Datblygiad tai 'gwyliau yn unig' yn methu â denu prynwyr

Y 16 o dai yn Storws Wen, BryntegFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yma dim ond dau o'r 16 o dai a gafodd eu codi gyda'r amod cynllunio sydd wedi'u gwerthu

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae datblygwyr wedi gofyn am gael dileu amod cynllunio oedd yn cyfyngu stad o dai ar Ynys Môn at ddiben gwyliau yn unig, yn sgil methiant i'w gwerthu.

Cafodd y stad o 16 o dai yn Storws Wen, Bryn-teg, ger Benllech, ei hadeiladu gydag amod cynllunio oedd yn golygu bod ond modd defnyddio'r tai fel ail gartrefi neu dai gwyliau - ac nid fel prif dŷ sy'n cael defnydd drwy'r flwyddyn.

Roedd y tai - i gyd yn rhai tair llofft - wedi'u marchnata'n wreiddiol ar gost o £285,000 yr un.

Ond mae'r datblygwr, Colette Cartwright, bellach wedi gofyn i Gyngor Môn am gael dileu'r amod a'u gwneud yn dai parhaol ar ôl gwerthu ond dau dŷ o'r 16 dros gyfnod o ddwy flynedd.

Benllech yn yr haul
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r datblygiad ddim yn bell o bentref gwyliau poblogaidd Benllech

Yn ôl Cyngor Môn roedd y caniatâd cynllunio - a basiwyd yn 2009 yn unol ag argymhelliad y swyddogion, dolen allanol - yn deillio'n ôl i gyfnod cyn dyfodiad y cynllun datblygu presennol, ac yn dilyn polisïau sydd bellach wedi'u disodli.

Roedd y caniatâd ar y pryd yn golygu bod yr egwyddor o adeiladu tai haf ar y safle wedi'i sefydlu - fe adnewyddwyd y caniatâd gwreiddiol gan swyddogion cynllunio'r cyngor.

Ond roedd yr amod cynllunio wedi cythruddo llawer yn lleol yn sgil teimlad bod fforddiadwyedd tai eisoes yn broblem ar yr ynys, ac mewn sawl rhan arall o Gymru.

Mae perchnogion ail dai ar yr ynys yn gorfod talu premiwm o 100% ar eu treth cyngor.

Ond mewn cais o'r newydd, dolen allanol sydd bellach wedi'i gyflwyno i adran gynllunio Cyngor Môn, mae'r datblygwyr wedi gofyn am gael dileu'r amod yma ar gyfer y 14 o'r 16 o dai sydd heb eu gwerthu.

O ganlyniad byddai'r tai ar gael i'w gwerthu fel cartrefi arferol ac yn cael defnydd drwy'r flwyddyn.

Er bod datblygiad o 20 o dai cyfagos gyda'r un amod cynllunio "wedi gwerthu'n gyflym iawn," erbyn codi'r datblygiad diweddaraf o 16 o dai, mae "newidiadau treth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i atal twf mewn tai gwyliau ac ail dai" wedi "effeithio'n sylweddol ar y farchnad eiddo leol", medd y datblygwr.

Tai yn Storws Wen, Bryn-teg
Disgrifiad o’r llun,

Roedd datblygiad arall, dafliad carreg i ffwrdd, gydag amod 'tai gwyliau yn unig' wedi llwyddo i werthu

Oherwydd hyn, dywed y datblygwyr fel rhan o'r cais: "Er gwaethaf yr ymdrechion helaeth a wnaed i geisio gwerthu'r tai dros ddwy flynedd, dim ond dau eiddo y mae'r ymgeisydd wedi'u gwerthu.

"Felly mae 14 o dai teuluol modern wedi'u cwblhau'n llawn ac yn barod i'w meddiannu ond, oherwydd y cyfyngiad meddiannaeth penodol a osodwyd, yn annymunol yn y farchnad ar gyfer y defnydd cyfyngedig a ganiatawyd - er bod y pris gofyn wedi ei ostwng yn sylweddol dros amser."

Ychwanegon nhw, y byddai'r tai wedi bod yn "ddeniadol iawn yn y farchnad dai gyffredinol fel anheddau teuluol", a'u bod wedi gorfod gwrthod "o leiaf 37 o deuluoedd oedd wedi ymholi am brynu'r eiddo fel cartrefi teuluol llawn amser".

Roedd y rhan fwyaf, meddan nhw, "yn deuluoedd lleol i Ynys Môn".

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Môn ystyried y cais newydd yn ystod y misoedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol